Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Datganiad i'r wasg gan QAA - i'w gyhoeddi ar unwaith

Dyddiad: Ebrill 15 - 2021
QAA yn canmol Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Y mis hwn, cyhoeddodd QAA ei Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Met Caerdydd), gan ganmol y sefydliad am yr hyn mae wedi ei gyflawni mewn sawl maes, gan gynnwys dulliau rhagweithiol i gynyddu lefelau cymorth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig, a gwella ansawdd profiad dysgu'r myfyrwyr.

Penododd QAA dîm o bum adolygydd annibynnol i adolygu Met Caerdydd. Cynhaliwyd yr adolygiad ffurfiol o'r sefydliad ym mis Ionawr 2021, ac fe'i cynhaliwyd yn gyfangwbl mewn amgylchedd ar-lein oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus. Yn gyffredinol, dyfarnodd y tîm adolygu fod Met Caerdydd yn diwallu gofynion y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i fod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Roedd y canlynol ymhlith yr hyn a dderbyniodd ganmoliaeth:

  • Y cyfraniad cryf a wnaed gan y Deon Cynorthwyol Ymgysylltiad Myfyrwyr o ran cryfhau ymgysylltiad myfyrwyr a phartneriaeth rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol.
  • Agwedd arbennig o ragweithiol y Llyfrgell a'r Gwasanaethau Gwybodaeth i gynyddu lefel y cymorth i fyfyrwyr ymhellach, yn enwedig yn ystod y pandemig.
  • Effaith mentrau'r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd wrth sicrhau bod ansawdd profiad dysgu myfyrwyr yn cael ei reoli a'i wella'n gyson.
  • Goruchwyliaeth gadarn o bartneriaethau Addysg Drawswladol sy'n sicrhau nad yw safonau academaidd ac ansawdd profiad dysgu myfyrwyr mewn perygl.
  • Trefnu a rheoli lleoliadau gwaith yn gyson ac yn hynod effeithiol ar draws y sefydliad.

Gall y Brifysgol olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1865 pan agorodd yr Ysgol Gelf am y tro cyntaf yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Yn ystod yr 20fed ganrif, unodd nifer o golegau Caerdydd i ffurfio 'Athrofa De Morgannwg' ac yna Athrofa Addysg Uwch Caerdydd a ailenwyd, ym 1996, yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC). Llwyddodd UWIC i sicrhau pwerau dyfarnu graddau ymchwil yn 2009. Yn dilyn diddymu Prifysgol Cymru, ailenwyd y Brifysgol yn Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Met Caerdydd) yn 2011. Mae'r Brifysgol yn ystyried ei hun yn brifysgol fyd-eang sydd wedi'i gwreiddio yng Nghymru, gyda'r pwrpas o ddarparu addysg o ansawdd uchel ynghyd â lefel uchel o effaith, yn canolbwyntio ar ymarfer, sy’n cael ei chydnabod yn broffesiynol, a hynny i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.

Meddai Dr Jacqui Boddington, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Met Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd â chanlyniad Adolygiad y Brifysgol, ac yn arbennig o falch bod y panel wedi canmol ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â chorff y myfyrwyr er mwyn sicrhau ansawdd trwy gydol siwrnai ddysgu myfyrwyr - yng Nghaerdydd ac yn rhyngwladol. Roedd yn arbennig o braf nodi cydnabyddiaeth y panel o'r gwaith sylweddol ar draws ein gwasanaethau academaidd, proffesiynol a'n cymunedau myfyrwyr i gefnogi dysgu myfyrwyr yn ystod pandemig COVID-19.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i QAA ac i'r panel am eu hymagwedd a'u diwydrwydd o fewn heriau penodol y pandemig, a'r oedi cysylltiedig o ran y broses adolygu."

Mae adroddiad QAA hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan ofyn:

  • Bod trefniadau ar gyfer cynorthwyo cynrychiolaeth myfyrwyr mewn sefydliadau partneriaeth yn cael eu gweithredu'n gyson ac yn effeithiol.
  • Bod y Brifysgol yn sicrhau bod pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig sy'n addysgu’n ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol priodol cyn cymryd cyfrifoldeb am addysgu, gan gynnwys hyfforddiant penodol ar gyfer cyflwyno ar-lein lle bo hynny'n briodol.
  • Bod y Brifysgol yn sicrhau bod yr holl bartneriaid yn deall y gofynion ar gyfer delio â chwynion ac apeliadau academaidd, a bod y gofynion hyn yn cael eu cyfleu'n glir ac yn gyson i'r holl fyfyrwyr.