Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Cyhoeddi canllawiau am sicrhau ansawdd addysg uwch mewn prentisiaethau

Dyddiad: Gorffennaf 12 - 2018

Mae QAA wedi cyhoeddi ‘Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch mewn Prentisiaethau’. Mae'n disgrifio sut mae'r disgwyliadau sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd addysg uwch yn ystyried ac yn berthnasol i fodelau presennol o brentisiaethau, a modelau sy'n dechrau ymddangos, yn y DU.

Mae'r ddogfen wedi cael ei diweddaru gyda gwelliannau mewn ymateb i adborth, ac i adlewyrchu'r datblygiadau ym maes addysg uwch y DU. Mae'r newidiadau'n cynnwys:

  • Cymharu a disgrifio'n fwy eglur y dulliau nodedig a ddefnyddir yn y gwahanol awdurdodaethau yn y DU
  • Diwygiadau i adlewyrchu gofynion y Sefydliad Prentisiaethau
  • Adran newydd ar Gwynion ac Apeliadau.