Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Adolygiad ansawdd porth: cymru - mae llawlyfr y dull wedi ei gyhoeddi erbyn hyn

Dyddiad: Awst 2 - 2018

Ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae QAA wedi cyhoeddi'r llawlyfr ar gyfer Adolygiad Ansawdd Porth: Cymru.

Mae'r broses Adolygiad Ansawdd Porth yn elfen allweddol o'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Lluniwyd y dull i:

  • sicrhau bod buddiannau'r myfyrwyr yn cael eu diogelu
  • sicrhau bod enw da system addysg uwch y DU yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys diogelu safonau academaidd
  • bennu meysydd sydd angen eu datblygu a/neu welliannau penodol a fydd yn helpu'r darparwr i fodloni'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol.

Trwy gyfrwng yr adolygiad, bydd QAA yn cynnig sicrwydd allanol annibynnol ac yn darparu beirniadaeth arbenigol i CCAUC am y ffordd y mae darparwyr yn dangos eu cydymffurfiad â'r gofynion ansawdd sylfaenol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Yn y broses adolygu, defnyddir cyngor arbenigol gan dimau adolygwyr sy'n gymheiriaid, ac mae'r rhain yn cynnwys adolygwyr sy'n fyfyrwyr.

Bydd modd i ddarparwyr ddefnyddio canlyniadau llwyddiannus Adolygiadau Ansawdd Porth fel tystiolaeth i ddangos bod ansawdd eu darpariaeth addysg uwch wedi'i sicrhau yn erbyn y gofynion rheoleiddiol sylfaenol pan fyddent yn gwneud cais am ddynodiad penodol neu Gynllun Mynediad a Ffioedd.