Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

A all sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol helpu i ddarganfod risgiau ym maes addysg uwch?

Dyddiad: Mehefin 28 - 2018
Mae'r prifysgolion a'r colegau sy'n derbyn sgorau uchel ar Facebook a gwefannau adborth ar-lein eraill yn tueddu gwneud yn well mewn dulliau mwy ffurfiol o fesur y dysgu a'r addysgu, dyma yw awgrym gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA).

Mae The Wisdom of Students: Monitoring Quality through Student Reviews, a gyhoeddwyd heddiw, yn cymharu adborth ar-lein sydd ar gael yn gyhoeddus ar Facebook, WhatUni a StudentCrowd gyda dulliau mesur mwy traddodiadol megis yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC), y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF), ac adolygiadau allanol o ansawdd y ddarpariaeth addysg.

Mae Alex Griffiths, sy'n arbenigwr ym maes risgiau a rheoliadau yng Nghanolfan Dadansoddi Risgiau a Rheoliadau (CARR) Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain (LSE), yn un o awduron yr adroddiad. Meddai yntau: “Mae'r elfen o fonitro wedi'i awtomeiddio, mewn amser real bron iawn, sy'n rhan o roi adborth ar-lein yn rhoi golwg cyffrous i ni ar ansawdd yn ôl safbwynt y myfyriwr. Ac ar ben hynny, mae'n rhoi'r gallu i brifysgolion, colegau a'r cyrff sy'n eu goruchwylio adnabod y risgiau i ansawdd yn gyflym iawn a chymryd camau i ymdrin â nhw, gan sicrhau profiad positif i'r myfyriwr.”

Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu gwaith Dr Griffiths yn y sector gofal iechyd, a ganfu hefyd bod sgorau ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhagfynegi beth fyddai canlyniadau asesiadau'r Comisiwn Ansawdd Gofal o'r darparwyr gofal iechyd dan sylw.

Canfu'r gwaith ymchwil bod adborth ar-lein am y prifysgolion a'r colegau yn y Deyrnas Unedig yn bositif ar y cyfan. Aseiniwyd sgorau sêr allan o bump i brifysgolion a cholegau drwy gyfuno'r sgorau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cyfartaledd y sgôr cyfan ar gyfer y 210,000 o adolygiadau ar-lein yn uchel, sef 4.18 o sêr. Mae'r sgôr positif yma'n cydymffurfio â'r sgorau cyffredinol uchel a roddwyd am foddhad cyffredinol y myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gwelir tuedd debyg gyda chanlyniadau'r Fframwaith TEF. Roedd cyfartaledd y sgorau sêr ar-lein ar eu huchaf yn gyffredinol i ddarparwyr a enillodd Wobr Aur y Fframwaith, ac yn dilyn hynny ddarparwyr Gwobrau Arian, ac ar eu hisaf i'r rhai a gafodd yr Efydd.

Meddai Will Naylor, Cyfarwyddwr Colegau a Darparwyr Amgen QAA: “Bydd angen cael beirniadaeth arbenigwyr annibynnol bob amser wrth wirio ansawdd mewn addysg uwch. Ond, mae'r adroddiad yma'n ein hatgoffa i gadw meddwl agored, yn arbennig pan fyddwn yn ceisio deall beth yw barn y myfyrwyr am yr addysgu, y cyfleusterau a'r gwasanaethau eraill.”

I ganfod a yw'r patrwm yma'n parhau dros amser, bydd QAA yn cynnal cynllun peilot gyda deg darparwr addysg uwch yn yr hydref eleni.

Meddai Will Naylor: “Bydd ein cynllun peilot yn archwilio'r posibilrwydd o gymryd agwedd newydd tuag at ganfod pa brifysgolion a cholegau sy'n fwyaf tebygol o ffynnu, a pha rai allai fod yn fwy o risg.”