Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Y newyddion diweddaraf



Gwella ansawdd ar y cyd: Manteision a myfyrdodau o bob rhan o’r DU

Dyddiad: Mai 21 - 2024

Dydd Mawrth 21ain Mai, 10.00 – 11.30 (BST)

 

Mae gwelliant yn gonglfaen i ymagweddau at ansawdd addysg uwch yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae'n faes buddsoddiad sylweddol ar gyfer cyrff cyllido rheoleiddiol a QAA. Mae prosiectau gwelliant cydweithredol yn dod ag ystod eang o fanteision i’r rhai sy’n cyfranogi yn y prosiect, myfyrwyr, dysgwyr a'u sefydliadau, a gallant gael effaith eang ar draws sectorau.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

 

Mae’r weminar hon yn rhoi cyfle i glywed sylwadau gan arweinwyr prosiectau gwelliant cydweithredol o Gymru, yr Alban a Lloegr ar eu dulliau o gynnal eu prosiectau gwelliant: buddion a heriau a (gobeithio) pam y byddent i gyd yn awyddus i fod yn rhan o waith gwelliant cydweithredol yn y dyfodol.

Ariennir y weminar gan CCAUC fel rhan o archwiliad o ddulliau gwelliant sy’n gydweithredol ac yn cynnwys gweithio traws-wladol.  

Sylwch fod y cofrestru ar-lein yn cau’r diwrnod cyn y digwyddiad. Anfonwch e-bost at events@qaa.ac.uk os hoffech gofrestru ar ôl i’r cofrestru ar-lein ddod i ben.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn

 

Bydd y digwyddiad hwn yn amhrisiadwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ymgymryd â phrosiect gwelliant cydweithredol, neu sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â phrosiect o’r fath. 


Cofrestru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru


Y Blog


Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.