Trwy glicio ar y dolenni isod, gallwch weld gwybodaeth yn y Gymraeg am y digwyddiadau hynny sy'n cael eu cynnal yng Nghymru.
Mae fersiwn Saesneg y dudalen hon yn rhoi rhestr gyflawn o ddigwyddiadau QAA sydd ar y gweill.
Rhwydwaith Ansawdd Cymru
Dyddiad: | Mehefin 21 - 2023 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |

Dydd Mercher 21 Mehefin, 13:30 – 16:00
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) yn grŵp dan arweiniad y sector sy’n derbyn cefnogaeth gan QAA. Ei nod yw darparu cymorth i ymarferwyr ansawdd yng Nghymru ar faterion polisi ac arfer mewn meysydd sy'n ymwneud ag ansawdd dysgu ac addysgu, sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd. Amcan y Rhwydwaith yw mynd ati ar y cyd i wella addysg uwch yng Nghymru, drwy rannu gwybodaeth a chynnig sylwadau ar eich arferion a'ch heriau.
Cadeirydd y Rhwydwaith yw Nicola Poole, Pennaeth Ansawdd a Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol De Cymru. Fel rheol mae'n cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal sesiynau trafod wedi’u targedu rhwng cyfarfodydd ffurfiol o’r Rhwydwaith.
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru’n agored i aelodau QAA yn holl wledydd y DU.
Dyma rai o’r themâu posibl ar gyfer y Rhwydwaith yn 2022-23:
- Canmoliaeth o Adolygiadau Gwella Ansawdd
- Gwella Ansawdd
- Ymgysylltiad myfyrwyr
- Partneriaethau – o fewn y DU a rhyngwladol
- Micro-gymwysterau
- Ymchwil Ôl-raddedig
Mae adnoddau o’r Rhwydweithiau ar gael ar Wefan Adnoddau’r Aelodaeth.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru