QAA Cymru – Prosiect Gwelliant Micro-gymwysterau (wedi’i ariannu gan CCAUC) Prosesau Sicrhau Ansawdd
Dyddiad: | Mai 24 - 2023 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |

Dydd Mercher 24 Mai, 10:00 - 11:30
Yn ystod 2022-23, mae QAA Cymru wedi ymgymryd â phrosiect a gomisiynwyd gan CCAUC i ddysgu mwy am Ficro-gymwysterau yng Nghymru a rhannu arfer ar draws y sector.
Mae micro-gymwysterau yn gymwysterau bach sy’n dwyn credydau nad ydynt, yn unigol, yn gyfystyr â chymhwyster fel y'i rhestrir ar y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch. Mae mwy o wybodaeth am Ficro-gymwysterau yn y Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau.
Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar yr astudiaethau achos a ddatblygwyd gan CCAUC yn y cyhoeddiad Higher Education for the Nation:Developing Micro-credentials. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y blog hwn .
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae QAA yn cynnal arolwg byr gyda darparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, ac yn dilyn hyn gyda thrafodaethau byr ar weithgareddau cyfredol ym maes Micro-gymwysterau.
Bydd y gweminarau yn gyfle i rannu arfer ym maes Micro-gymwysterau yng nghyd-destun Datganiad Nodweddion Micro-Gymwysterau QAA.
Bydd y ddwy weminar yn ymwneud â’r canlynol:
- Prosesau Sicrhau AnsawddDydd Mercher 24ain Mai - 10:00 - 11:30
- Ymarferoldeb Cyflwyno Dydd Mercher 7fed Mehefin - 10:00 - 11:30
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru