Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.

Newyddion


QAA yn llenwi ei chyfarwyddiaeth wrth gychwyn ar ‘gyfeiriad newydd a chyffrous’

Dyddiad: Ionawr 7 - 2020

Mae QAA wedi llenwi ei chyfarwyddiaeth newydd gyda phenodiad Alastair Delaney yn Gyfarwyddwr dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd Alastair yn arwain rôl QAA o gefnogi'r sector yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddefnyddio dulliau o ddarparu addysg uwch sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, a bydd hefyd yn arwain gwaith QAA o ymgysylltu ag Ewrop ar gyfer y DU gyfan. Mae ganddo brofiad eang o waith rheoleiddio a sicrhau ansawdd, a hynny'n fwyaf diweddar gyda Healthcare Improvement Scotland, ac mae wedi gweithio i Education Scotland am flynyddoedd lawer. Mae gan Alastair brofiad sylweddol ym meysydd addysg bellach, dysgu yn y gymuned ac addysg mewn carchardai.

Meddai Alastair: 'Mae'n bleser mawr gen i ymuno â QAA mewn cyfnod sydd mor bwysig i'r sector. Mae canlyniad yr etholiad cyffredinol diweddar wedi egluro rhai pethau o bosib, ond mae hefyd wedi codi cwestiynau eraill. Rwy'n edrych ymlaen at wrando ar y rheiny sy'n gweithio yn y sector yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn deall beth yw'r ffordd orau o'u cefnogi nhw i ddarparu profiadau dysgu o'r safon uchaf i'w myfyrwyr mewn cyfnod o newid o'r fath.'

Bydd Alastair yn canolbwyntio ar ymatebion QAA i gynlluniau i greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru, ac i weithredu'r Adolygiad o Daith Dysgwyr 15-24 oed yn yr Alban, yn ogystal â lefel sylweddol o waith ymgysylltu â materion Ewropeaidd.

Mae ei benodiad ef yn dilyn tri phenodiad diweddar arall i gyfarwyddiaeth QAA: Ben Potter, Cyfarwyddwr Asesu Ansawdd dros Loegr; Ian Bassett, Cyfarwyddwr Aelodaeth, Safonau a Gwella Ansawdd, a Stephanie Sandford, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a Gwasanaethau Proffesiynol.

Meddai Vicki Stott, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr QAA: 'Rydym wrth ein boddau bod Alastair wedi cytuno i ymuno â ni. Bydd yn dod â phrofiad ac arbenigedd o safon uchel i'r rôl, ac edrychaf ymlaen at weld y manteision y bydd yn eu cyflwyno i'r sector addysg uwch yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.'

'Gydag Alastair, mae ein tîm Cyfarwyddwyr yn gyflawn – ac mae gennym dîm newydd rhagorol i gymryd QAA yn ei blaen i'w chyfeiriad newydd a chyffrous. Fel sefydliad aelodaeth, rydym erbyn hyn yn sicrhau gwelliant i 245 o golegau a phrifysgolion ledled y DU. Am fod cyfarwyddiadau polisi'n arwain at fwy o gydlyniad ar draws y system addysg drydyddol, rydym mewn sefyllfa dda i helpu'r sector addysg uwch i addasu i'r newidiadau. Bydd Alastair yn allweddol i sicrhau bod QAA yn parhau i fod yn gorff i'r pedair gwlad, o fewn fframwaith i'r DU sy'n cefnogi ein prifysgolion a'n colegau i lwyddo'n rhyngwladol.'

Bydd Alastair yn dechrau yn ei rôl newydd ar 8 Ionawr 2020.

Gallwch ganfod rhagor am aelodaeth QAA ar wefan QAA, yn ogystal â'n lansiad diweddar o achrediad rhyngwladol.


Blog


Y sector addysg uwch yng Nghymru ar flaen y gad gyda’i ymagwedd a arweinir gan welliant at Adolygu Gwella Ansawdd

01/09/2024 - Athro Nichola Callow Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg), Mhrifysgol Bangor

Ymgolli mewn Dysgu Drwy Drochi! Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol

11/10/2023 - Steph Tindall ennaeth Datblygu Ymarfer Addysgol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Hawlio’n ôl ymgysylltiad â myfyrwyr: Blwyddyn gyntaf agwedd gydweithredol o Gymru

01/06/2022 - Dr Myfanwy Davies Pennaeth Gwella Ansawdd, Prifysgol Bangor