Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

14 Tachwedd 2025

Mae bach yn brydferth: manteision cynyddol micro-gymwysterau

 



Author


Ann Cotterill

Rheolwr Ansawdd, QAA

Mae bach yn brydferth: manteision cynyddol micro-gymwysterau, gan Ann Cotterill, Rheolwr Ansawdd, QAA.

Ble bynnag y byddwch yn edrych ym myd polisi addysg uwch heddiw, ymddengys bod sôn, un ffordd neu'r llall, am ficro-gymwysterau – hyd yn oed os nad yw hwnnw'n derm a ddefnyddir bob amser ac y gallai pawb fod yn gyfarwydd ag ef. 

(A rhag ofn nad ydych chi'n gyfarwydd: gellid disgrifio micro-gymwysterau, yn gryno, fel cymwysterau bach sy'n darparu sgiliau, gwybodaeth neu brofiad ar draws ystod eang o feysydd pwnc a lefel sgiliau.) 

Mae llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir bod uwchsgilio ac ailsgilio yn feysydd blaenoriaeth i ategu twf economaidd a'i strategaeth ddiwydiannol – trwy greu (yng ngeiriau'r Ysgrifennydd Addysg, Bridget Phillipson) "diwylliant o ddysgu gydol oes a… modelau mwy hyblyg i helpu pawb i gael mynediad at addysg uwch".  

Mae'n fenter amserol iawn, er y bu cryn oedi ers iddi ddod i'r amlwg yn wreiddiol yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Augar yn 2019. Mae ei datblygiad wedi cyflymu'n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf – ac mae ei phwysigrwydd wedi'i amlygu gan y papur gwyn ar Addysg a Sgiliau Ôl-16.  

Mae darparwyr yn Lloegr yn dangos diddordeb cynyddol ym mhosibiliadau’r fenter hon. Yn wir, roedd cynhadledd Quality Insights QAA a gynhaliwyd y mis diwethaf yn cynnwys trafodaeth fywiog a phoblogaidd ar weithredu cynlluniau ar gyfer Hawl Dysgu Gydol Oes Lloegr dan arweiniad cydweithwyr o'r Adran Addysg.  

Mae dysgu gydol oes hefyd yn uchel ar agenda addysg llywodraethau a chyrff cyllido gwledydd datganoledig y DU.  

Rydym ni yn QAA yn cael ein hariannu gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol yng Nghymru, i gefnogi a hwyluso gwaith y Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau, sy'n gweithio ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban – dan gadeiryddiaeth Steve Osborne o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. (Ysgrifennodd Steve blog QAA diddorol iawn y llynedd am y gwaith hwn.) 

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Medr gyllid ar gyfer saith o golegau a darparwyr hyfforddiant i gyflwyno micro-gymwysterau i brentisiaid. 

Yn y cyfamser, mae grŵp llywio Cyngor Cyllido'r Alban ar gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol wedi bod yn gweithio i gynhyrchu fframwaith trosglwyddo credydau ar gyfer yr Alban, rhagofyniad hanfodol ar gyfer system ddysgu gydol oes sy'n seiliedig ar ficro-gymwysterau. 

Bydd yr uchelgais i ddefnyddio micro-gymwysterau trwy gydol oes dysgwr sy'n oedolyn, o bosibl ar draws sawl degawd a sawl sefydliad – i adeiladu tuag at ddyfarnu cymwysterau cydnabyddedig fel diplomâu a graddau – o reidrwydd yn seiliedig ar ddulliau o gydnabod dysgu blaenorol.  

Pwysigrwydd prosesau o'r fath fel sail i lwyddiant mentrau dysgu gydol oes (ac o ran hyrwyddo symudedd a dewis myfyrwyr) yw pam mae ein cydweithwyr yn QAA wedi cyhoeddi yn ystod y deunaw mis diwethaf ganllawiau ymarferol ynghylch mecanweithiau cydnabod credyd. Hefyd dadansoddiad o bolisïau trosglwyddo credydau prifysgolion y DU. Maent wedi gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sector i gynhyrchu adroddiad manwl ar drosglwyddo credydau ar raddfa eang.  

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Siambr Fasnach Prydain (BCC) yn ystod y misoedd diwethaf fel rhanddeiliaid allweddol yn y maes hwn, i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o werth a photensial micro-gymwysterau ac i hyrwyddo perthnasedd y dulliau dysgu hyn i anghenion diwydiannau. 

Mae'r data diweddaraf gan BCC yn dangos bod 67 y cant o fusnesau yn wynebu prinder sgiliau – ac felly'n tynnu sylw at y potensial i gyrsiau micro-gymwysterau ddarparu uwchsgilio a DPP hanfodol i lawer o fusnesau.  

Fodd bynnag, ymddengys bod ymwybyddiaeth cyflogwyr o ddarpariaeth micro-gymwysterau yn gymharol isel. Yn 2022, pan gynhaliodd BCC arolwg ar raddfa eang i brofi gwybodaeth cyflogwyr am ficro-gymwysterau, a'u hawydd amdanynt, canfuwyd bod 83 y cant o fusnesau wedi dweud nad oeddent yn ymwybodol o ficro-gymwysterau.  

Ond, er gwaethaf hyn, dywedodd 26 y cant o'r ymatebwyr i'r un arolwg y byddent nawr yn 'debygol' o ddefnyddio micro-gymwysterau i fynd i'r afael â'u hanghenion sgiliau yn y flwyddyn nesaf. Dywedodd 29 y cant arall y byddent yn eu hystyried pe bai cyrsiau'n cael eu cymeradwyo gan gorff diwydiant.  

Ymddengys, er eu bod newydd glywed am y ddarpariaeth hon, fod yr arolwg hwn wedi dangos (ac efallai i ryw raddau wedi helpu i ysgogi) awydd cryf ymhlith cyflogwyr am gyfleoedd hyfforddi 'cryno' o'r fath i uwchsgilio eu gweithwyr. 

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, canfu arolwg pellach a gynhaliwyd gan BCC fod 37 y cant o gyflogwyr yn bwriadu defnyddio cyrsiau byr a oedd yn darparu ardystiad i hyfforddi eu staff dros y flwyddyn nesaf – o’i gymharu â dim ond 20 y cant a oedd yn bwriadu defnyddio prentisiaethau lefel 2 neu 3. 

Mae arolygon diweddar a gynhaliwyd gan QAA Cymru wedi canfod bod ymwybyddiaeth cyflogwyr o ficro-gymwysterau wedi cynyddu i 44 y cant. Roedd ymwybyddiaeth ymhlith cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol yn sylweddol uwch, gyda phawb a ymatebodd o'r sefydliadau hynny’n nodi eu bod yn ymwybodol o ficro-gymwysterau.  

Ond, yn yr arolygon hynny gan QAA Cymru, dywedodd un o bob pump o gyflogwyr y byddent ond yn fodlon talu am ddatblygiad staff o’r fath pe bai yna gymhorthdal ar gael – gyda 69 y cant o gyflogwyr yn gosod gwerth o lai na £500 ar wythnos o hyfforddiant llawn-amser (er ei bod yn ansicr a fyddai hyn yn talu costau darpariaeth bwrpasol ar raddfa fach).  

Felly, mae'n ymddangos yn glir bod angen i ddarparwyr gynnal trafodaethau agored ynghylch costau datblygu a chyflwyno cyrsiau micro-gymwysterau er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn hygyrch i gyflogwyr o bob maint. 

Pan fydd y cyrsiau a gynigir gan ddarparwyr lleol yn cael eu mireinio i fynd i'r afael â diffygion sgiliau lleol – pan fydd colegau a phrifysgolion yn cydweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel a hygyrch sydd wedi'i dargedu at ddiwallu eu hanghenion penodol – mae micro-gymwysterau yn amlwg yn cynnig arf pwerus i gefnogi trawsnewid economïau rhanbarthol, a grymuso busnesau a'u staff.  

Dyma pam rydyn ni yn QAA yn parhau i weithio gyda darparwyr, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, cyrff cyllido a llywodraethau i gefnogi datblygiad y mecanweithiau sydd eu hangen fel sail i weithrediad effeithiol darpariaeth micro-gymwysterau. Dyma pam rydyn ni hefyd yn hapus iawn i fod yn gweithio gyda Siambr Fasnach Prydain i hyrwyddo ymwybyddiaeth busnesau o gyfleoedd dysgu mor hanfodol, a'u cyfranogiad ynddynt. 

Gallwch ddysgu mwy am ein cydweithrediad â BBC ar wefannau QAA a BCC.