Buddsoddiad ac Adferiad au Ccauc: Prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru – Pecyn Adnoddau
Dyddiad cyhoeddi: 21 Maw 2022
Sefydlwyd prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru, a ariennir gan Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch CCAUC, i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer darparu ar y cyd, i ymchwilio i rwystrau rhag gweithredu, ac i awgrymu modelau ar gyfer cydweithio (cylchlythyr CCAUC W21/08HE).
Roedd prosiect Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn datblygu ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio ymhlith sefydliadau partner, gan osod y sylfaen ar gyfer dull mwy cydweithredol o addysgu.
Bu tîm Rhaglenni Cydweithredol Cymru yn gweithio gyda’r holl bartneriaid ledled Cymru i adolygu a blaenoriaethu rhwystrau/risgiau rhag cydweithio, gan ddatblygu canllawiau ac adnoddau i wneud cydweithio’n haws. Ochr-yn-ochr â’r gwaith hwn, bu tîm y prosiect yn ymchwilio i’r cyfle ar gyfer darpariaeth gydweithredol genedlaethol Lefel 7. Adolygwyd y ddarpariaeth genedlaethol o ran cydweithredu yng Nghymru, ac ymgymerwyd â gwaith i ddeall yn well y gwahaniaethau yn y rheoliadau a’r prosesau ar draws sefydliadau partner yng Nghymru a helpodd i ddatblygu’r canllawiau hyn.
Mae’r pecyn adnoddau cyflawn hwn yn cynnwys canlyniadau’r gwaith hwnnw, ac yn dangos prosesau enghreifftiol a mathau o weithgareddau ac adnoddau sy’n rhan o’r dasg o ddatblygu darpariaeth ar y cyd.
Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch wedi cyhoeddi’r adnoddau hyn ar ran yr awduron: Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru drwy ymgynghori â’r sector addysg uwch yng Nghymru. Cofiwch nad yw’r canllawiau hyn yn dehongli nac yn ymdrin â gofynion deddfwriaethol, statudol na rheoleiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Maw 2022