Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Dirprwywyd y cyfrifoldeb am waith QAA yn yr Alban i QAA Scotland.


Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliant, yn unol â'r Fframwaith Gwella Ansawdd. Mae'r Fframwaith Gwella Ansawdd yn cefnogi sefydliadau addysg uwch i reoli ansawdd profiad dysgu'r myfyrwyr, ac mae'n rhoi hyder i'r cyhoedd yn y safonau academaidd.


Rydym yn gweithio'n agos â darparwyr addysg uwch, cyrff cyllido a mudiadau myfyrwyr. Mae ein partneriaid yn cynnwys Llywodraeth yr Alban, Cyngor Cyllido'r Alban, Prifysgolion yr Alban, UCM yr Alban, student partnerships in quality Scotland (sparqs), ac Advance HE.


Mae ymgysylltu â myfyrwyr yn elfen graidd o'n gwaith. Mae tîm pob adolygiad sefydliadol yn cynnwys aelod sy'n fyfyriwr, ac rydym yn cynnwys cynrychiolwyr y myfyrwyr ymhob un o'n gweithgorau a'n pwyllgorau.


Yn ein gwaith, ceisiwn sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth i safbwyntiau a chyfraniadau o'r tu allan i'r Alban. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau ym Mhroses Bologna ac ar draws Ardal Addysg Uwch Ewrop.

Rhagor o fanylion

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn yr Alban, ewch i wefan QAA Scotland.