Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Gwaith Cymdeithasol

Datganiadau Meincnod Pwnc

Mae Datganiadau Meincnod Pwnc yn disgrifio natur yr astudio a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pwnc penodol. Maent yn dangos yr hyn y gellid disgwyl yn rhesymol i raddedigion fod yn ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar ddiwedd eu hastudiaethau. 

Isod fe welwch y Datganiad Meincnod Pwnc llawn ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Ynghyd â hynny, rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodeb a gynlluniwyd i roi trosolwg cryno a hygyrch o'r prif Ddatganiad i fyfyrwyr, cyflogwyr ac academyddion. 

Datganiad Meincnodi Pwnc: Gwaith Cymdeithasol

Dyddiad cyhoeddi: 08 Ebr 2026

Am y pwnc hwn

Explaining To the Group in Community Centre

Fel disgyblaeth academaidd sy’n seiliedig ar arfer proffesiynol, mae Gwaith Cymdeithasol yn nodedig am ei ffocws ar lywio sefyllfaoedd cymdeithasol cymhleth i hyrwyddo a diogelu llesiant unigol a chyfunol. Un o nodweddion allweddol addysg ar gyfer gwaith cymdeithasol yw astudiaeth integredig o wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd arbenigol, ynghyd â chymhwyso ymchwil yn feirniadol i ffurfio sail i ddealltwriaeth ac i arwain gweithredu, myfyrio a gwerthuso. Caiff Gwaith Cymdeithasol ei arfer mewn ystod amrywiol o leoliadau, gan adlewyrchu amrywioldeb a chymhlethdod cymdeithas gyfoes. Mae'r berthynas ddeinamig rhwng cymdeithas, y wladwriaeth, a'r proffesiwn yn parhau i fod yn hanfodol i rôl gwaith cymdeithasol wrth gynnig cymorth i unigolion yr effeithir arnynt gan drawma a'r rhai sydd mewn angen neu’n wynebu risg. Gan weithredu mewn cyd-destunau sy'n cael eu nodweddu gan ansicrwydd, cymhlethdod ac amwysedd, rhaid i weithwyr cymdeithasol feddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i lywio'r heriau hyn yn effeithiol. 

Andrea Collins - Cadeirydd y Grŵp Cynghori
Prifysgol Metropolitan Manceinion

 

Roedd adolygu'r Datganiad Gwaith Cymdeithasol yn gyfle pwerus i oedi, myfyrio ac ail-ddychmygwch yr hyn y gall gwaith cymdeithasol fod, a’r hyn y dylai fod, mewn byd sy'n newid yn gyflym. Roedd yn gyfle i ni ystyried materion cyfoes yn ymarferol a chyfraniad y proffesiwn ar draws sectorau amrywiol. Trwy’r broses hon, aethom ati i gryfhau’r cysylltiad rhwng y sylfaen wybodaeth ar gyfer gwaith cymdeithasol, gan gynnwys ymchwil a’i chymhwyso yn ymarferol, gan sicrhau bod aliniad parhaus â disgwyliadau rheoleiddio ar draws y pedair gwlad. Roedd yr adolygiad hefyd yn caniatáu i ni fynd i'r afael â datblygiadau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys effaith gynyddol technolegau fel deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a chyfrifoldeb y proffesiwn wrth ymateb i heriau byd-eang, gan gynnwys newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol, ac anghydraddoldebau sy'n ehangu. Mae'r Datganiad ar ei newydd wedd wedi cael derbyniad cadarnhaol. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ac yn cynorthwyo â datblygiad parhaus cyrsiau sy'n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol y dyfodol i arwain newid ystyrlon a chadarnhaol.

Gweld mwy o Ddatganiadau Meincnod Pwnc

Ewch i'n tudalen Meincnod Pwnc i ddod o hyd i'n holl Ddatganiadau Meincnod Pwnc, sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau a meysydd disgyblaeth.

 

Archwiliwch bob Datganiad Meincnod Pwnc sydd gennym