Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Eich helpu chi i roi ansawdd ar waith i feithrin gallu, hybu effeithlonrwydd a gwella profiad myfyrwyr

Mae aelodaeth o QAA yn rhoi'r arweiniad arbenigol, yr adnoddau, y datblygiad proffesiynol a'r cyfleoedd rhwydweithio sydd eu hangen ar eich sefydliad i wella ansawdd, cynnal safonau academaidd a gwella profiad dysgu myfyrwyr.

 

Trwy ddigwyddiadau, prosiectau wedi’u hariannu a chyfleoedd ymarferol i ddysgu gydag eraill, rydym yn eich helpu i fodloni gofynion rheoleiddio, ymateb yn hyderus i newid yn y sector a chynorthwyo eich timau i wreiddio arferion ansawdd effeithiol a chyson.

Cyflawni effaith ar draws eich sefydliad cyfan

Fel aelod, rydych chi'n cael mynediad at ddigwyddiadau, gweithdai ac adnoddau parod i'w defnyddio sy'n eich helpu i ragweld heriau a dangos eich ymrwymiad i ansawdd. Mae eich aelodaeth yn creu effaith wirioneddol ar draws y sector, gan ariannu prosiectau ac adnoddau cydweithredol sy'n sbarduno arloesedd ac yn datrys problemau cyffredin. Trwy ymuno â ni, rydych chi'n dod yn rhan o lais cyfunol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau allweddol ac yn sbarduno'r agenda ansawdd. Mae cefnogaeth QAA yn golygu manteision clir ar draws eich sefydliad:

 

  • Mewnwelediad sy'n cryfhau eich strategaeth: Eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio’n hyderus.
  • Offer sy'n gwneud gwaith ansawdd yn haws: Lleihau dyblygu a rhyddhau capasiti ar draws eich timau.
  • Effeithlonrwydd sy'n lleihau risg: Galluogi dealltwriaeth gyflym o ddatblygiadau newydd heb ailddyfeisio datrysiadau.
  • Cymuned sy'n cyflymu eich cynnydd: Rhoi mynediad i chi at gymheiriaid sy'n wynebu’r un heriau.
  • Dylanwad sy'n llunio'r sector: Creu ffyrdd i chi siapio gwaith sy'n diffinio sut olwg sydd ar dda ar draws y sector.
Rydym yn gwneud defnydd rheolaidd o adnoddau sector QAA, gan gynnwys allbynnau o Brosiectau Gwelliant Cydweithredol, gweminarau, a dogfennau briffio’r sector. Mae tirwedd addysg uwch yn symud yn gyflym, felly mae'r rhain yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar themâu sy'n dod i'r amlwg ynghyd ag enghreifftiau ymarferol o sut mae sefydliadau eraill yn ymateb. Mae'n ein helpu i symud o 'gydymffurfio' i 'welliant', gan sicrhau ein bod bob amser yn dod â syniadau ffres, sy'n arwain y sector, yn ôl i'r sefydliad.

Carly Rees, Rheolwr Ansawdd a Gwasanaethau Academaidd, Prifysgol De Cymru


Teacher and students in discussion

Beth sydd wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth

Mae aelodaeth o QAA yn rhoi cipolwg mwy craff i chi, mwy o ddylanwad a chefnogaeth ymarferol y gallwch weithredu arni ar unwaith. Mae gweithgareddau a gyflwynir trwy aelodaeth wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ymateb yn hyderus i newid a gwella prosesau ansawdd:

 

  • Hyfforddiant a gweithdai
  • Rhwydweithiau ymarferol a grwpiau cymheiriaid
  • Mewnwelediad ac arweiniad
  • Adnoddau ar gyfer gweithredu
  • Cynadleddau ansawdd
  • Prosiectau Gwelliant Cydweithredol.

Mae manylion llawn am yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar gyfer mathau penodol o aelodaeth ar gael isod:


Beth mae ein haelodau’n ei ddweud

Gwelliant parhaus ac ymgorffori ansawdd
Mae aelodaeth o QAA yn ein darparu â fframwaith strwythuredig ar gyfer gwelliant parhaus, canllawiau ymarferol ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol, a’r hyder bod ein gwaith yn cael ei barchu a bod pobl yn ymddiried ynddo. Yn bwysicaf oll, mae'n helpu i wreiddio ansawdd ym mhopeth a wnawn, gan fod o fudd uniongyrchol i'n myfyrwyr.
Dr Craig Ruddock, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm, Goldsmiths, Prifysgol Llundain
🔎 Dysgwch fwy am sut mae Goldsmiths wedi defnyddio aelodaeth QAA i gefnogi eu gwaith sicrhau ansawdd

Cysylltu â chymheiriaid a chydweithio ar ddatrysiadau
""
Y gwerth rwy'n ei gael o'r gymuned rwydweithio yw cael lle dibynadwy i brofi fy ffordd o feddwl gyda chymheiriaid sy'n wynebu heriau tebyg. Mae gallu archwilio syniadau heb ofni cael fy marnu, ac adeiladu ar brofiad ac adborth ein gilydd, wedi bod yn amhrisiadwy i mi.
Yr Athro John Murray, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu ac Addysgu), Prifysgol Huddersfield

Mynd i'r afael â heriau allweddol yn y sector trwy gymorth wedi'i ffocysu
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr aelodaeth o QAA fu mynediad at adnoddau ar ddefnydd moesegol Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol, a fu o gymorth uniongyrchol i ni ddatblygu ein polisi AI, creu canllawiau clir, a darparu hyfforddiant i staff a myfyrwyr. Mae hyn wedi ein galluogi i ymgorffori AI yn gyfrifol ac yn hyderus ar draws ein cyrsiau a'n rhaglenni.
Dr Eman Mohamed, Deon Sicrhau Ansawdd, Prifysgol Effat
International academics in discussion
🔎 Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Effat wedi defnyddio aelodaeth QAA i hybu gwelliant parhaus a datblygu diwylliant o ansawdd


Darllenwch fwy o'n hastudiaethau achos a darganfyddwch sut mae sefydliadau wedi elwa o ddod yn aelodau o QAA.