Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn disgrifio natur yr astudio a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pwnc penodol. Maent yn nodi'r hyn y gellir disgwyl yn rhesymol i raddedigion mewn pynciau penodol ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar derfyn eu hastudiaethau.


Ysgrifennir Datganiadau Meincnodi Pwnc gan arbenigwyr pwnc, ac rydym yn hwyluso'r broses hon. Cânt eu defnyddio fel pwyntiau cyfeirio wrth gynllunio, darparu ac adolygu rhaglenni academaidd. Maent yn darparu canllawiau cyffredinol ond ni fwriedir iddynt gynrychioli cwricwlwm cenedlaethol na phennu dulliau gosodedig. Yn hytrach, maent yn caniatáu hyblygrwydd ac arloesedd.


Cyhoeddir yr holl Ddatganiadau Meincnodi Pwnc yn y Saesneg yn unig, ac eithrio'r Datganiad ar gyfer Cymraeg sydd ar gael yn y Gymraeg hefyd.


Yn fersiwn Saesneg y dudalen hon gallwch chwilio am Ddatganiad Meincnodi Pwnc penodol.