Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae QAA yn gwahodd cyfraniadau ar gyfer pecyn adnoddau datblygiad proffesiynol dysgu ac addysgu newydd

Dyddiad: Rhagfyr 13 - 2023

Mae QAA Cymru wedi lansio galwad am gyfraniadau gan ddarparwyr AB ac AU yng Nghymru, ar gyfer pecyn adnoddau datblygiad proffesiynol dysgu ac addysgu newydd.

Fel rhan o brosiect a ariennir gan CCAUC, 'Effaith datblygiad proffesiynol dysgu ac addysgu staff ar wella profiad y myfyriwr / dysgwr a hybu deilliannau myfyrwyr / dysgwyr', mae QAA yn chwilio am enghreifftiau cryf o fentrau dysgu proffesiynol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu myfyrwyr.

Croesewir pob math o ddatblygiad proffesiynol sy'n dangos effaith ar ddeilliannau myfyrwyr. Gall y rhain amrywio o weithgareddau anffurfiol, byr ac unigol i enghreifftiau o fentrau datblygu estynedig ar raddfa fwy ar draws cyfadran neu adran. Croesewir mentrau sydd ar y gweill, cyn belled â gellir dangos effaith.

Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at adnodd newydd pwysig a fydd yn cael ei rannu ar draws y sector a’i arddangos mewn cynhadledd AU/AB ASA Cymru yn Haf 2024.

Os hoffech gyfrannu, cwblhewch y ffurflen gyflwyno erbyn 22ain Ionawr 2024. Mae’r ffurflen yn gofyn am grynodeb byr o'r fenter rydych chi wedi’i dewis, ynghyd â'i heffaith. Bydd cynrychiolydd QAA wedyn yn cysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol ym mis Chwefror. Bydd yr holl astudiaethau achos perthnasol yn cael eu cynnwys yn y pecyn adnoddau.