Y newyddion diweddaraf
Arfer micro-gymwysterau: Polisi a safbwyntiau o wledydd y DU
Dyddiad: | Mai 21 - 2024 |
---|
Dydd Mawrth 21ain Mai, 14.00 - 15.30 (BST)
Rhwydwaith ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sy’n cael ei gadeirio gan Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Gweithlu a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yw’r Gweithgor Trydyddol ar ficro-gymwysterau a ariennir gan CCAUC (Grŵp Diddordeb Arbennig micro-gymwysterau). Mae'r grŵp wedi'i sefydlu trwy drefniadau grant QAA gyda CCAUC i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a rhannu arfer ym maes micro-gymwysterau sy'n datblygu'n gyflym ar draws addysg uwch ac addysg bellach.
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Bydd y weminar gyntaf hon, a drefnir gan y Rhwydwaith mewn partneriaeth â QAA, yn rhannu tirweddau polisi cyfredol ar draws addysg uwch ac addysg bellach mewn micro-gymwysterau a dysgu cyrsiau byr ar draws pob un o wledydd cartref y DU. Bydd trosolwg byr o’r arferion cyfredol a’r datblygiadau polisi ym mhob un o wledydd y DU, ac yna trafodaeth banel gyda’r cynrychiolwyr.
Nod y weminar hon yw cynorthwyo'r sector i ddeall ymhellach gyfeiriad polisi presennol Dysgu Gydol Oes ym mhob un o wledydd y DU, yn ogystal â hyrwyddo sgwrs sector a rhannu arfer wrth lywio'r maes hwn sy'n datblygu.
Sylwch fod y cofrestru ar-lein yn cau’r diwrnod cyn y digwyddiad. Anfonwch e-bost at events@qaa.ac.uk os hoffech gofrestru ar ôl i’r cofrestru ar-lein ddod i ben.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i ddarparwyr trydyddol ledled y DU, gan gynnwys staff sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:
- Ansawdd
- Datblygu’r cwricwlwm
- Academyddion
- Cynllunio strategol
- Timau polisi.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru
Y Blog
Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.