Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn y DU Cyngor a Chanllawiau - Egwyddor 2
Dyddiad cyhoeddi: 04 Medi 2026
Mae darparwyr yn cymryd camau bwriadol i gynnwys myfyrwyr fel partneriaid gweithredol wrth sicrhau a gwella ansawdd profiad dysgu myfyrwyr. Mae ymgysylltu yn digwydd yn unigol ac ar y cyd i ddylanwadu ar bob lefel o astudio a gwneud penderfyniadau. Mae gwelliannau a nodir trwy weithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr yn cael eu gweithredu, lle bo'n briodol, a'u cyfathrebu i staff a myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 04 Medi 2026
Mae'r egwyddor hon yn herio darparwyr i fframio eu harfer o amgylch ymgysylltiad gweithredol a phwrpasol â myfyrwyr yn hytrach na dulliau gweithrediadol. Mae'n annog darparwyr i ystyried sut maen nhw'n ymgysylltu â myfyrwyr, gan ddefnyddio methodolegau unigol a chyfunol, a sut maen nhw'n galluogi myfyrwyr i ddylanwadu ar addysgeg a phrosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol.
Mae'n ymgorffori ethos ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid gweithredol wrth sicrhau a gwella ansawdd ar draws cylch bywyd y myfyriwr, gan nodi y bydd cydbwysedd yr ymgysylltu o fewn partneriaeth yn amrywio, yn dibynnu ar y cyd-destun a phrofiad ac arbenigedd perthnasol y myfyrwyr a'r staff.
Isod, fe welwch grynodeb o bob arfer allweddol, ynghyd ag adnoddau, tablau a diagramau i'ch helpu i'w rhoi ar waith.
Mae'r arfer hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod gweithio mewn partneriaeth yn ddull o ymgysylltu â myfyrwyr lle mae myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn cyflawni rolau pwysig wrth lunio profiad y myfyrwyr. Mae'n cydnabod bod myfyrwyr yn arbenigwyr yn eu dysgu eu hunain ac felly'n allweddol o ran llwyddo i wella ansawdd profiad y myfyriwr.
Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar bwysigrwydd dull strategol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr o weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr, gan feithrin diwylliant o barch cydfuddiannol, ymagwedd agored a rhannu gwybodaeth. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd hyrwyddwyr o blith yr uwch arweinyddiaeth, ac yn cynnig ystyriaethau allweddol i wreiddio'r dull hwn.
Mae'r arfer hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydlu a datblygu trefniadau ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu a chynrychiolaeth myfyrwyr sydd wedi'u diffinio, eu cyfleu a'u deall yn glir. Y gred yw y bydd hyn yn helpu i wreiddio a galluogi ymgysylltiad a chynrychiolaeth myfyrwyr effeithiol
ar draws gwahanol lefelau ac ehangder darparydd. Mae'r arfer hefyd yn annog darparwyr i archwilio eu prosesau o amgylch casglu adborth myfyrwyr er mwyn sicrhau y gellir gweithredu ar y llais cyfunol.
Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar y tri maes allweddol mewn perthynas â'r arfer gan gynnwys diffinio gweithgareddau ymgysylltu a chynrychiolaeth myfyrwyr, cyfathrebu ac ymateb i lais myfyrwyr, yn ogystal â sicrhau adnoddau a chefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Mae'r arfer hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithgareddau ymgysylltu sy'n cyrraedd ac yn adlewyrchu amrywioldeb corff y myfyrwyr ac wedi hynny sut mae’r sefydliad yn gwrando ar ddeilliannau'r gweithgareddau hynny ac yn mynd ati i weithredu arnynt.
Mae'r canllawiau'n pwysleisio, er mai gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid yw'r fframwaith a ffafrir, bod yna gydnabyddiaeth na fydd pob myfyriwr eisiau neu'n gallu ymgysylltu yn y ffordd hon yn gyson (neu o gwbl). Maent yn cynnig nifer o ymagweddau ac awgrymiadau i ddarparwyr a fydd yn eu galluogi i fod yn hyderus bod eu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu yn cyrraedd holl amrywiaeth eu corff myfyrwyr. Mae’r canllawiau hefyd yn pwysleisio gwerth monitro a gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu i sicrhau eu bod yn cyrraedd ac yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth y myfyrwyr.
Mae'r arfer hwn yn atgoffa darparwyr i ystyried a deall demograffeg eu corff myfyrwyr a chydnabod yr heriau a'r rhwystrau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu mewn perthynas â gweithio gyda nhw. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, mewn partneriaeth â myfyrwyr a'u cyrff cynrychioli, bod darparwyr yn gwrando heb ragfarn, ac yn gweithio’n fwriadol i leihau unrhyw rwystrau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd a phrosesau ymgysylltu â myfyrwyr yn gynhwysol.
Mae'r canllawiau sy'n sail i'r arfer hwn yn pwysleisio pwysigrwydd treulio amser yn dod i ddeall amrywioldeb poblogaeth y myfyrwyr ac ymrwymiad ar draws y darparydd i sicrhau bod gweithgareddau ymgysylltu yn adlewyrchu hyn, yn ogystal â chynnig ystyriaethau defnyddiol ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant ar draws y gwahanol lefelau a meysydd gwaith o fewn darparydd.
Mae'r arfer hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a dathlu ar ran y darparydd i nodi’r cyfraniadau y mae myfyrwyr wedi'u gwneud trwy weithio mewn partneriaeth, ac am yr effaith y maent wedi'i chael ar wella addysgu a dysgu, ynghyd â phrofiad ehangach myfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol. Mae'n nodi bod cydnabod a dathlu cyfraniadau myfyrwyr yn helpu i feithrin diwylliant o gydweithio ac yn hyrwyddo pwysigrwydd myfyrwyr wrth adeiladu cymuned ddysgu ddeinamig a chynhwysol.
Mae'r canllawiau'n pwysleisio na ddylai cydnabyddiaeth a dathlu fod yn un maint, na’r un fath, i bawb ond yn hytrach dylent alinio â lefelau cyfraniad penodol, a dylid eu teilwra i gyfraniadau myfyrwyr unigol. Mae'n cynnig fframwaith defnyddiol y gellir ei ddefnyddio i adeiladu cydnabyddiaeth a dathlu effeithiol o gyfraniad myfyrwyr, yn ogystal â thynnu sylw at ystyriaethau ynghylch gwahanol fathau o wobrwyo a chydnabyddiaeth.
Mae'r arfer hwn yn galluogi darparwyr i ddangos sut maen nhw'n cymryd camau bwriadol i rymuso myfyrwyr i lunio a chymryd rhan weithredol ym mhob agwedd ar brofiad dysgu myfyrwyr o fewn a thu hwnt i'r cwricwlwm ffurfiol. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon trwy gynrychiolaeth a phartneriaeth myfyrwyr, gan gyfuno i ddylanwadu a gwella agweddau strategol ac o ddydd i ddydd profiad dysgu myfyrwyr a bywyd y campws.
Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar ystyriaethau ynghylch sut y gall darparwyr a myfyrwyr feithrin diwylliant o gyd-berchnogaeth wrth wella profiad y myfyriwr. Maent yn cynnig cyngor ynghylch datblygu dull sy'n cryfhau arferion llywodraethiant a gwelliant, gan greu diwylliant cynhwysol a bywiog sy'n ymestyn y tu hwnt i'r cwricwlwm ffurfiol.