Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU

Dyddiad: Mehefin 16 - 2022

Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Roedd yr adolygiad yn canmol cyflawniadau'r Brifysgol mewn sawl maes; e.e. gwneud penderfyniadau ar sail data a gwella addysgu a dysgu.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 21 a 24 Mawrth 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod PCyDDS yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol:

  • Mae ‘Hwb Myfyrwyr’ y Brifysgol yn darparu pwynt cyswllt, ynghyd â gwybodaeth electronig gynhwysfawr a hygyrch i fyfyrwyr sy'n cefnogi eu profiad dysgu yn effeithiol.
  • Mae’r ystod eang a’r defnydd effeithiol o hyfforddiant, addysgeg a chymorth digidol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig yn parhau i gyfoethogi profiad staff a myfyrwyr.
  • Mae dangosfwrdd data'r Brifysgol yn darparu ystod eang o ddata cywir, defnyddiol a hygyrch i staff, gan alluogi'r Brifysgol i fonitro eu perfformiad yn gynhwysfawr ac yn effeithiol o ran safonau eu dyfarniadau ac ansawdd profiad dysgu myfyrwyr.

Meddai’r Athro Catrin Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor PCyDDS: ‘Mae'r Brifysgol wrth ei bodd bod QAA wedi canfod bod ein trefniadau ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr yn gadarn. Mae hyn yn ganlyniad i waith tîm rhagorol ar draws y Brifysgol, yn cynnwys ein timau academaidd a phroffesiynol yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr.  Rydym yn gwerthfawrogi argymhellion adolygiad QAA i sicrhau gwelliannau parhaus yn ein prosesau a'n harferion.’

Ychwanegodd yr Athro Mirjam Plantinga, Is-Ganghellor Cynorthwyol Profiad Academaidd PCyDDS: ‘Rydym yn croesawu asesiad QAA o'n trefniadau academaidd ac yn falch iawn o dderbyn canmoliaeth am yr 'Hwb Myfyrwyr' sy'n rhywbeth y mae ein myfyrwyr yn gosod cryn werth arno. Mae profiad myfyrwyr yn ganolog i'n cynllunio a'n darpariaeth. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ein hagwedd at y pandemig a’r ffordd yr aethom ati i drawsnewid ein darpariaeth i gynnig cyfleoedd newydd i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ar ein campysau.’

Mae adroddiad QAA hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan ofyn i'r Brifysgol wneud y canlynol:

  • datblygu system gadarn sy’n sicrhau bod holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyfredol ac yn y dyfodol sy’n ymgymryd ag addysgu neu’n cynorthwyo ag addysgu yn derbyn hyfforddiant priodol
  • datblygu dull strategol cydlynol i wella deilliannau cyflogadwyedd proffesiynol ar draws pob rhaglen
  • cynnwys myfyrwyr o sefydliadau partner cydweithredol yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer trosglwyddo addysgu i’r sefydliadau hynny wrth gau cyrsiau.
Darllenwch yr adroddiad.