Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Bwerau Dyfarnu Graddau (Pwyllgor CBDG) yn ystyried ceisiadau am bwerau dyfarnu graddau a/neu deitl prifysgol. I ategu'r gwaith hwn, mae'n goruchwylio'r meini prawf a'r prosesau craffu a ddefnyddir i asesu ceisiadau ac i wneud argymhellion i Fwrdd QAA er mwyn hysbysu natur y cyngor cyfrinachol y mae QAA yn ei roi i weinidogion.

Dyddiadau'r pwyllgor
  • 30 Mawrth 2023
  • 29 Mehefin 2023

Newidiadau i'r Pwyllgor

Mewn ymateb i ofynion newydd sydd wedi'u nodi yn y Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil, rhoddodd Bwrdd Cyfarwyddwyr QAA gymeradwyaeth i adolygiad cynhwysfawr o gylch gwaith y Pwyllgor CBDG ym mis Rhagfyr 2017.


Ym mis Mawrth 2018, penodwyd tri aelod newydd sy'n dod â phrofiad o ddarparwr addysg uwch heb bwerau dyfarnu graddau, profiad o gyflogi graddedigion, a phrofiad o annog cystadlu ym myd diwydiant. Erbyn hyn, mae gan y Pwyllgor CBDG yr holl gategorïau o brofiad sy'n ofynnol gan QAA, yn ei rôl fel y corff sicrhau ansawdd dynodedig yn Lloegr, i roi cyngor ar faterion pwerau dyfarnu graddau i'r Swyddfa Myfyrwyr.

Trefn gyfredol y PwyllgorTrefn gyfredol y Pwyllgor

Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Y Cadeirydd (sy'n annibynnol i QAA)
  • Dau aelod o Fwrdd QAA
  • Saith aelodsydd â phrofiadcyfredol neu ddiweddar o bweraudyfarnugraddau'r DU ar lefelstrategol a rhyngwladol
  • Dau aelod sy'n rhoi safbwynt cyflogwr neu gorff proffesiynol
  • Un aelod sydd â chefndir mewn addysg uwch mewn coleg
  • Un aelod sy'n fyfyriwr
  • Mae modd i ddau aelod ychwanegol gael eu cyfethol i'r Pwyllgor i sicrhau arbenigedd perthnasol arall.

Hefyd, mae'r Pwyllgor CBDG yn gwahodd arsylwyr o'r canlynol, fel y bo'n briodol:

  • Adran Addysg Llywodraeth y DU
  • Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
  • Cyfarwyddiaeth Ddysgu Uwch a Gwyddoniaeth Llywodraeth yr Alban
  • Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon
  • Cyrff cyllido addysg uwch y DU.
  • Mae Prif Weithredwr QAA a'r Cyfarwyddwr Colegau a Darparwyr Amgen yn QAA yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor yn rhinwedd eu swyddi.

Mae'r Pennaeth Pwerau Dyfarnu Graddau a Theitl Prifysgol yn QAA yn gweithredu fel Ysgrifennydd i'r Pwyllgor CBDG.

Aelodau'r Bwrdd

  • Cadeirydd y Bwrdd – Mr Andrew Ramsay, Cyn-Brif Swyddog Gweithredol, Y Cyngor Peirianneg
  • Yr Athro Tim McIntyre-Bhatty, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bournemouth
  • Yr Athro Phil Cardew, Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd), Prifysgol Beckett Leeds
  • Yr Athro Christopher Clare, Cyn-Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd, Polisïau a Rheoliadau, Coleg Prifysgol Athrofa Gwasanaethau Ariannol (ifs)
  • Yr Athro Aldwyn Cooper, Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr, Regent's University, Llundain
  • Yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, Prifysgol Aberystwyth
  • Mr Charles Hunt, Is-Ganghellor, Coleg Prifysgol Osteopathi
  • Ms Anne Lambert, Aelod o Fwrdd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
  • Yr Athro Geoff Layer, Is-Ganghellor, Prifysgol Wolverhampton
  • Yr Athro Jane Longmore, Is-Ganghellor, Prifysgol Chichester
  • Mr Tom Lowe, Rheolwr y Ganolfan Ymgysylltiad Myfyrwyr, Prifysgol Caerwynt
  • Yr Athro Lorna Milne, Uwch-Is-Bennaeth (Proctor), Prifysgol St Andrews
  • Ms Dorothea Ross-Simpson, Pennaeth Ansawdd Academaidd ac Ymddygiad Myfyrwyr, Prifysgol Keele
  • Yr Athro Alan Speight, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg), Prifysgol Hull
  • Ms Jenny Taylor, Arweinydd Sefydliad IBM (UK)
  • Dr Steve Wright, Cyfarwyddwr Addysg Uwch, Coleg Nelson a Colne