Galwad am fynegiadau o ddiddordeb i ymuno â Grwpiau Cynghori ar Ddatganiadau Meincnod Pwnc QAA
Dyddiad cyhoeddi: 08 Rhag 2025
Mae QAA yn arwain ar ddatblygiad Datganiadau Meincnod Pwnc. Caiff y Datganiadau hyn eu hadolygu’n gylchol i sicrhau eu bod mor ddefnyddiol â phosibl i gymunedau disgyblaethau, a gallant lywio amrywiaeth o ddibenion ar draws y sector, gan gynnwys dylunio cyrsiau a darparu cefnogaeth i sicrhau safonau academaidd.
Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan gymunedau academaidd i ymuno â'r Grwpiau Cynghori ar Bynciau ar gyfer y pynciau a amlinellir isod:
Cymraeg
Ein nod yw sicrhau bod aelodaeth pob Grŵp Cynghori ar Ddatganiadau Meincnod Pwnc yn cynrychioli'n llawn amrywioldeb cyfoethog sector addysg uwch y DU, â'r nod o hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch, amrywioldeb a chynhwysiant wrth ddatblygu'r Datganiadau. Mae croeso arbennig i fynegiadau o ddiddordeb gan gydweithwyr academaidd o gymunedau ethnig.
Y Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd ar gyfer y pynciau, gan weithio gyda QAA, sy'n gyfrifol am ddewis aelodau'r Grŵp Cynghori. Er mwyn caniatáu i ni a'r Cadeiryddion benodi grwpiau digon cynrychioliadol, rydym yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan academyddion a myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol ar gyfer pob pwnc. Bydd aelodaeth pob Grŵp Cynghori’n cael eu dethol o bedair gwlad y DU, a bydd cydbwysedd priodol rhwng ymarfer academaidd a phroffesiynol, lle bo'n berthnasol i'r pwnc.
Bydd aelodaeth Grwpiau Cynghori hefyd yn cynnwys:
gwahanol fathau o ddarparwyr (gan gynnwys gwahanol ddulliau o gyflwyno rhaglenni a gwahanol arbenigeddau pwnc)
grwpiau diwydiant neu gyflogwyr (lle bo'n berthnasol i'r pwnc)
cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (lle bo'n berthnasol i'r pwnc)
cynrychiolwyr y prif gymdeithas a/neu rwydwaith ar gyfer y pwnc
myfyriwr cyfredol neu gyn-fyfyriwr, corff myfyrwyr neu fudiad sy'n cynrychioli buddiannau myfyrwyr yn y maes pwnc.
Darllenwch y ddogfen Manyleb y Person isod i gael mwy o fanylion am y meini prawf tystiolaeth a disgwyliadau ar gyfer aelodau'r grwpiau cynghori.
Dyddiad cyhoeddi: 08 Rhag 2025
Bydd angen i'ch darparydd/cyflogwr eich rhyddhau ar gyfer pedwar i chwe chyfarfod o’r Grŵp Cynghori yn ystod oriau gwaith arferol (9.00-17.00) dros gyfnod o chwech i naw mis. Fel arfer, ni fydd y cyfarfodydd hyn yn para mwy na dwy awr. Bydd hefyd yn ofynnol i aelodau’r grŵp ddrafftio, ysgrifennu ac adolygu testun y tu allan i gyfarfodydd y grŵp, ac efallai y bydd rhywfaint o gyfathrebu y tu allan i’r sesiynau hyn.
Mae’r cyfnod adolygu ar gyfer Datganiadau Meincnod Pwnc sy’n bodoli eisoes fel arfer yn cymryd rhwng 12-15 mis, felly bydd angen i chi ymrwymo i gyfnod yr adolygiad. Ni chynigir tâl am rôl ar Grŵp Cynghori QAA. Cynhelir cyfarfodydd Grwpiau Cynghori ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams, a bydd dogfennau'n cael eu cadw'n ganolog ar wefan SharePoint QAA.
Dyma'r dyddiadau a'r cerrig milltir allweddol a ragwelir ar gyfer yr adolygiad:
| Dyddiad | Cerrig milltir |
|---|---|
| Chwefror 2026 | Cyfarfodydd cyntaf y Grwpiau Cynghori |
| Chwefror-Gorffennaf 2026 | Cyfnod adolygu a drafftio gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd (fel arfer pump) o'r Grŵp Cynghori |
| Medi-Tachwedd 2026 | Cyfnod ymgynghori gan gynnwys ymgynghoriad agored â chymuned y pwnc ac eraill sydd â diddordeb yn y maes |
| Tachwedd 2026 - Ionawr 2027 | Dadansoddiad o'r ymatebion ar ôl yr ymgynghoriad ac addasu'r Datganiad |
| Mawrth-Ebrill 2027 | Cyhoeddi Datganiadau diwygiedig |
Mae QAA wedi ymrwymo i sicrhau bod y Datganiadau'n adlewyrchu datblygiadau yng nghymunedau'r pynciau a'r agendâu yn y sector addysg uwch. Bydd y Datganiadau diwygiedig yn cynnwys ystyriaeth o'r pynciau canlynol, felly rydym yn awyddus i glywed gan y gymuned academaidd sydd ag arbenigedd yn y pynciau hyn, yn ogystal ag ymwybyddiaeth neu brofiad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy
Cydraddoldeb, tegwch, amrywioldeb a chynhwysiant - gyda ffocws ar gynhwysiant yng nghyd-destun cynnwys y cwricwlwm a nodweddion myfyrwyr
Hygyrchedd a gofynion myfyrwyr anabl
Addysg menter a/neu entrepreneuriaeth
Effaith Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen AI)
Dyddiad cyhoeddi: 08 Rhag 2025
Dyddiad cyhoeddi: 08 Rhag 2025
Am ymholiadau ynghylch Datganiadau Meincnod Pwnc, cysylltwch â qualityandstandards@qaa.ac.uk.