Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn y DU Cyngor a Chanllawiau - Egwyddor 1
Dyddiad cyhoeddi: 03 Medi 2026
Dyddiad cyhoeddi: 03 Medi 2026
Mae'r arfer hwn yn atgoffa darparwyr i fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb deuol i gynnal safonau academaidd ac ansawdd profiad dysgu myfyrwyr.
Mae'r canllawiau hyn yn helpu darparwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau dros safonau academaidd ac ansawdd trwy ddull systematig a strategol. Ynghyd â'r cyngor a'r canllawiau ar gyfer Egwyddor 8, bydd yn arbennig o ddefnyddiol i ddarparwyr sy'n ymrwymo i drefniadau partneriaeth neu'n eu gweithredu.
Mae'r arfer hwn yn canolbwyntio ar weithredu ymagwedd strategol at ymdrin ag ansawdd a safonau. Gellir gwneud hyn trwy fynegi, cynllunio a gwreiddio'r dull ar draws diwylliant ac arfer o fewn darparydd ac ar draws unrhyw drefniadau partneriaeth, gydag ymgysylltu â myfyrwyr a rhanddeiliaid yn elfen allweddol yn ei lwyddiant.
Mae alinio sicrhau ansawdd â gwaith o amgylch tegwch, cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant (EEDI) a chynaladwyedd amgylcheddol yn helpu i sicrhau bod prosesau fel cymeradwyo’r cwricwlwm, gwelliant, recriwtio a dargadwedd hefyd yn cyfrannu at y gwaith hwn.
Mae Arfer Allweddol hwn yn cynnig opsiynau i ddarparwyr feddwl am ddulliau strategol wedi'u teilwra i ymgorffori EEDI a chynaladwyedd amgylcheddol fel galluogwr allweddol ar gyfer cynnal safonau a gwella ansawdd. Mae'n trafod gweithredu a hyrwyddo, ac yn rhestru syniadau ar gyfer gweithgareddau parhaus i helpu darparwyr i wneud hyn.
Mae'r arfer hwn yn cynghori darparwyr i gyfleu eu dull strategol trwy reoliadau, polisïau a gweithdrefnau clir a chadarn, gan ddisgrifio'r prosesau maen nhw’n eu defnyddio i sicrhau ansawdd a safonau academaidd, yn ogystal â gwella profiad dysgu'r myfyrwyr.
Mae'r arfer yn annog darparwyr i feddwl am anghenion eu cynulleidfa, sefydlu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer llywodraethiant, a theilwra eu cyfathrebiadau ar gyfer ystod o wahanol randdeiliaid.
Mae'r arfer hwn yn cynghori monitro dull strategol darparydd yn gyfnodol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei weithredu'n llwyddiannus a'i ymgorffori ar draws y sefydliad. Mae hyn yn wahanol i'r prosesau monitro ac adolygu rheolaidd neu seiliedig ar risg ar gyfer darpariaeth cyrsiau (sy'n dod o dan Egwyddor 5 - Monitro, gwerthuso a gwella darpariaeth) ond mae'n awgrymu y gallai fod lle i gynnwys adolygiad o ddulliau strategol mewn systemau monitro a gwerthuso ehangach.