Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn y DU Cyngor a Chanllawiau - Egwyddor 8
Dyddiad cyhoeddi: 04 Medi 2026
Mae darparwyr a'u partneriaid yn cytuno ar drefniadau cymesur ar gyfer llywodraethiant effeithiol i sicrhau'r safonau academaidd a gwella ansawdd y rhaglenni a'r modiwlau a gyflwynir mewn partneriaeth ag eraill. Mae sefydliadau sy’n ymwneud â threfniadau partneriaeth yn cytuno ac yn cyfleu cyfrifoldebau penodol y naill a'r llall mewn perthynas â chyflwyno, monitro, gwerthuso, sicrhau a gwella’r profiad dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 04 Medi 2026
Mae Egwyddor 8 yn ymdrin â'r trefniadau ar gyfer cynnal safonau a gwella ansawdd rhwng dau neu fwy o sefydliadau i gyflawni agweddau ar addysgu, dysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr. Mae'n cwmpasu pob math o drefniadau sy'n ymwneud â myfyrwyr/dysgwyr a/neu ddyfarniadau, gan gynnwys y rhai sy'n cynnwys dilyniant gwarantedig, rhannu gwasanaethau neu ddysgu seiliedig ar waith.
Mae'r canllawiau'n nodi, er bod y sector yn ymwybodol o'r risgiau posibl sy’n perthyn i weithio mewn partneriaeth, bod hyn yn cynnig ystod eang o fanteision a chyfleoedd i fyfyrwyr, sefydliadau a chyflogwyr.
Maent yn pwysleisio'r angen i reoli'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth - trwy brosesau a dulliau sicrhau a gwella ansawdd sydd mor drylwyr, diogel ac agored i graffu â'r rhai ar gyfer rhaglenni a ddarperir gan un darparydd.
Maent hefyd yn cydnabod pwysigrwydd bod pob partner yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau a gwella ansawdd, gan gydnabod mai cyrff dyfarnu fydd yn gyfrifol yn y pen draw am gymwysterau a ddyfernir yn eu henw.
Isod, fe welwch grynodeb o bob arfer allweddol, ynghyd ag adnoddau, tablau a diagramau i'ch helpu i'w rhoi ar waith.
Lle cyflwynir darpariaeth academaidd trwy bartneriaeth, mae pob partner yn cytuno, yn deall, yn cyfleu ac yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal safonau academaidd a gwella ansawdd.
Mae'r arfer hwn yn pwysleisio ei bod yn hanfodol i bartneriaid sefydlu dealltwriaeth gydfuddiannol ynghylch yr hyn y mae safonau academaidd, sicrhau ansawdd a gwelliant yn eu golygu yng nghyd-destun y bartneriaeth. Mae'n nodi bod y ddealltwriaeth gydfuddiannol hon yn cynorthwyo â datblygiad fframwaith polisi a phrosesau cynhwysfawr a chadarn sy'n galluogi sicrwydd hyderus a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rheoleiddio. Mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant cydweithredol a rennir sy'n meithrin profiad dysgu cadarnhaol i fyfyrwyr a staff.
Mae'r canllawiau'n tynnu sylw at bwysigrwydd partneriaid yn cytuno ar fecanweithiau ar gyfer monitro a gwerthuso sicrhau ansawdd a gwelliant sy'n gymesur â maint, cwmpas a model/math y trefniant partneriaeth ac yn adlewyrchu maint, aeddfedrwydd a phrofiad partneriaid. Mae'r canllawiau'n cynnig ystyriaethau ar gyfer cyfleu'r mecanweithiau hyn ar draws ehangder y bartneriaeth.
Mae'r arfer hwn yn pwysleisio'r angen am brosesau diwydrwydd dyladwy strategol wedi'u gwreiddio mewn prosesau cymeradwyo neu adnewyddu partneriaethau addysgol. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y prosesau hyn yn galluogi canfod risg neu ffactorau sydd angen eu lliniaru'n gynnar fel rhan o'r broses gymeradwyo, yn ogystal â chydnabod bod diwydrwydd dyladwy yn broses sy'n seiliedig ar risg sy'n craffu ar ffactorau a allai effeithio'n andwyol ar y bartneriaeth neu enw da darparwr/sefydliad.
Mae'r canllawiau'n cynnig cyngor ynghylch pwy sy'n ymgymryd â diwydrwydd dyladwy a phryd y gallai ddigwydd. Mae hefyd yn amlinellu gwybodaeth ynghylch gwiriadau ychwanegol a'r hyn y gallai'r rheiny ei gynnwys ac yn cynnig gwahanol ddulliau o ran sut y gall darparydd bennu lefelau risg i wahanol drefniadau partneriaeth o fewn ei gyd-destun ei hun.
Mae arfer C yn tynnu sylw at bwysigrwydd cytundebau ysgrifenedig sy'n rhoi sicrwydd cyfreithiol i bob partner o ran eu rhwymedigaethau, eu hawliau a'u dyletswyddau, a pha mor hir y bydd y cytundeb yn eu rhwymo. Mae'n pwysleisio'r angen i gynnwys gwybodaeth mewn cytundeb lle mae un, y ddau neu'r holl bartneriaid yn penderfynu dod â'r bartneriaeth i ben yn gynnar.
Mae hefyd yn nodi bod y cytundebau hyn yn rhoi sicrwydd bod pob partner yn deall gofynion rheoleiddio academaidd a gofynion y gweithle (yn ôl yr angen) yn gydfuddiannol ac yn cytuno i gyflawni eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau wrth sicrhau safonau academaidd ac o ran cyflwyno, monitro, gwerthuso, sicrhau a gwella'r profiad dysgu.
Mae'r canllawiau ar gyfer yr arfer hwn yn canolbwyntio ar ystyriaethau allweddol i ddarparwyr wrth ddrafftio cytundeb a'r gofynion a'r cyfrifoldebau manylach a allai fod wedi'u cynnwys ynddynt ar gyfer gwahanol fathau o drefniant.
Mae'r arfer hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod ystyriaethau penodol y mae angen eu cynllunio a'u hymgorffori mewn gwahanol fathau o gytundebau yn dibynnu ar ble mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno, neu'r math o ddarpariaeth a gynigir. Mae'n cynghori bod angen rhoi'r ystyriaethau hyn ar waith er mwyn sicrhau rheolaeth lwyddiannus o'r bartneriaeth.
Mae'r canllawiau’n archwilio ffactorau allweddol i'w hystyried wrth weithredu mewn gwahanol gyd-destunau. Maent yn nodi pwysigrwydd materion gweithredol megis rheoliadau a gofynion rhyngwladol a thrawsffiniol y DU, gofynion deddfwriaethol a gofynion cofrestru proffesiynol, ynghyd ag ystyriaethau gweithredol a strwythur y rhaglen.
Mae'r canllawiau hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i ystyried derbyniadau, trosglwyddo credydau a symudedd myfyrwyr mewn cyd-destun gweithredol ac yn archwilio ystyriaethau craidd ynghylch pwysigrwydd deall cyd-destunau diwylliannol. Maent yn mynd ymlaen i gynnig cyngor ynghylch cyfrifoldebau sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill.
Mae Arfer E yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb darparwyr i gynnal cronfa o wybodaeth allweddol am eu partneriaid a'r trefniadau.
Mae'r canllawiau sylfaenol yn tynnu sylw at fanteision cofnod o'r fath, gan gynnwys hwyluso rheolaeth dda o'r trefniant partneriaeth a sicrhau ansawdd partneriaethau; hefyd bod y storfa hon yn cynnig fframwaith ar gyfer gweithgareddau sicrhau ansawdd, gan gynnwys monitro, cymeradwyo ac adolygu. Maent hefyd yn sôn bod cofnod o drefniadau partneriaeth yn cynnig ffynhonnell wybodaeth ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth gywir, y gellir ei chyhoeddi, am y trefniant partneriaeth.
Mae'r canllawiau'n mynd ymlaen i gynnig cyngor ynghylch cynnal cofnodion mewnol o bartneriaethau, yn ogystal â chofnod cyhoeddus ar wahân. Maent yn rhoi manylion ynghylch pa wybodaeth i'w chadw, rheoli cofnodion, lleoliad y wybodaeth a chyhoeddi gwybodaeth ar gyfer cofnodion cyhoeddus.
Mae'r arfer hwn yn annog darparwyr i sicrhau bod pob agwedd ar eu trefniadau partneriaeth yn cael eu monitro, eu gwerthuso a'u hadolygu'n rheolaidd i sicrhau ansawdd, sicrhau bod y bartneriaeth yn cael ei rheoli'n effeithiol, ac i annog gwelliant a rhannu arfer da.
Mae'n egluro y gall monitro a gwerthuso effeithiol hwyluso dealltwriaeth gyffredin o ansawdd a safonau, yn ogystal â phrofiad y myfyriwr, rhwng staff, myfyrwyr a darparwyr ar draws y trefniant, gan alluogi datblygiad diwylliant o atebolrwydd, tryloywder a dysgu dwyffordd.
Mae'r canllawiau'n archwilio pwysigrwydd dull monitro a gwerthuso sydd wedi'i ddatblygu a'i gytuno ar y cyd, a bod hyn yn annog deialog agored rhwng partneriaid. Mae'n tynnu sylw at feysydd i'w hystyried wrth ddylunio ac adolygu prosesau gan gynnwys pwyntiau i'w hystyried ynghylch defnyddio allanoldeb.