Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn lansio ymgynghoriad ar y Côd Ansawdd

Dyddiad: Ebrill 8 - 2024

Mae QAA wedi lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar fersiwn 2024 arfaethedig o Gôd Ansawdd y DU. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agored o 8fed Ebrill tan 17eg Mai ac yn cynnig y cyfle olaf i gydweithwyr ledled y DU lunio cynnwys craidd y Côd Ansawdd. 

Fel dogfen gyfeirio dan arweiniad y sector, mae'r Côd Ansawdd yn ymgorffori'r dull cydweithredol sy'n sail i addysg drydyddol y DU. Mae’r gyfres bresennol o gynigion yn ganlyniad proses helaeth o ymgysylltu â darparwyr addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â chyrff sector ledled y DU, sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers hydref 2022.

Mae'r Côd Ansawdd wedi bod yn gonglfaen addysg uwch yn y DU ers ei sefydlu yn y 1990au. Mae ei fformat wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae bob amser wedi mynegi’r egwyddorion y cytunwyd arnynt gan y sector ar gyfer safonau academaidd ac ansawdd addysg uwch ledled y DU.

Cyhoeddwyd y fersiwn diweddaraf o'r Côd Ansawdd yn 2018. Mae’r adolygiad presennol wedi’i gynnal mewn ymateb i dirwedd reoleiddio esblygol addysg uwch yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ynghyd â chyflwyno dulliau trydyddol penodol yng Nghymru a’r Alban.

Roedd yr adolygiad hefyd yn cynnig y cyfle i ystyried cyfeiriad, strwythur, cynnwys a diwyg y Côd Ansawdd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn werthfawr ac yn ddefnyddiol ar draws y DU, yn ogystal â chynnal enw da rhyngwladol addysg uwch y DU. 

Trwy gydol y broses o ailddatblygu fersiwn 2024, rydym wedi cydnabod yr angen i gynhyrchu dogfen y gellir ei defnyddio ar draws lleoliadau trydyddol a pharhau i fod yn sail ar gyfer sicrhau safonau ac ansawdd, waeth beth fo maint y darparydd neu’r cyd-destun y maent yn gweithredu ynddo ar draws y DU. 

Gallwch ganfod mwy

Gallwch ddarllen y Côd Ansawdd arfaethedig ynghyd â dogfen ymgynghori ar ein tudalen we ymgynghoriad y Côd Ansawdd. Dylid cyflwyno ymatebion trwy ein harolwg ar-lein erbyn 17 Mai.