Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Medr

Dyddiad: Ionawr 12 - 2026
Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi ei ymateb i ail ran ymgynghoriad Medr ar system reoleiddio newydd i Gymru, gan gynnwys amodau cofrestru a chyllido.

Mae QAA wedi croesawu esboniad cliriach yr ymgynghoriad o'r ystod o bwerau ymyriad a gynigir, a'r bwriad i weithredu dull sy'n seiliedig ar risg ac sy'n gymesur, gyda system fonitro yn seiliedig ar ymgysylltu cynnar, yn ogystal â chamau tuag at system reoleiddio sy'n canolbwyntio mwy ar welliant.

Rydym hefyd wedi croesawu’r gydnabyddiaeth y bydd angen i ddarparwyr ddangos sicrwydd ansawdd mewnol effeithiol ac ymrwymiad i welliant parhaus. Wrth wneud hynny, rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd yr ydym yn credu y byddent yn elwa o fireinio pellach.

Mae'r rhain yn cynnwys gwella hygyrchedd dogfennaeth, tanlinellu gwerth defnyddio a rhannu data i ategu monitro a goruchwylio, a chryfhau sut mae cyfeirbwyntiau allanol, gwelliant dan arweiniad y sector a mewnbwn gan gymheiriaid yn cael eu dangos fel ffactorau sy'n cyfrannu at ddyfarniadau rheoleiddio a gwella ansawdd. Hyn yn ogystal â phwysleisio'r angen i sicrhau aliniad cryf â’r adolygiad ansawdd allanol presennol a hunanwerthuso gan ddarparwyr, er mwyn lleihau dyblygu ac osgoi creu baich gweinyddol ychwanegol.

Rydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd eglurder o ran y pwyntiau lle gall gweithgareddau monitro arferol ysgogi pryderon ac ymyriadau, gan nodi y gall mwy o dryloywder gryfhau hyder a helpu darparwyr i ddeall yn well sut y bydd gwybodaeth trwy fonitro’n cael ei dehongli.
 
Rydym yn ychwanegu y byddai'n ddefnyddiol nodi'n gliriach beth yw'r disgwyliadau ansawdd gofynnol ar ddarparwyr, a pha fathau o dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol i ddangos aliniad. Hyn yn ogystal â bod yn glir wrth gydnabod rôl mewnbwn gan gymheiriaid, safonau a gydnabyddir gan y sector a chyfeirbwyntiau allanol fel nodweddion craidd sicrwydd ansawdd cadarn.

Mae ein hymateb llawn i'r ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan