Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi grwpiau cynghori ar gyfer adolygiadau o Ddatganiad Meincnod Pwnc sydd ar ddod

Dyddiad: Chwefror 19 - 2026
Mae QAA wedi cadarnhau aelodaeth y grwpiau cynghori ar gyfer y Datganiadau Meincnod Pwnc sy’n cael eu hadolygu yn 2026-27:  

Mae Datganiadau Meincnod Pwnc yn amlinellu'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion ac yn mynegi'r hyn y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar ddiwedd eu hastudiaethau. Maent yn rhan sefydledig o'r trefniadau sicrhau ansawdd mewn addysg uwch yn y DU, ac maent wedi'u datblygu a'u hysgrifennu gan y cymunedau academaidd eu hunain.    

Mae QAA yn arwain ar ddatblygiad Datganiadau Meincnod Pwnc, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n gyfredol ac yn darparu gwerth i gymunedau'r disgyblaethau trwy eu hadolygu ar sail gylchol. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiadau o’r DMP yn rhoi ystyriaeth i amrywiaeth eang o syniadau, barn a phrofiad ar y meysydd pwnc a drafodir, mae gan bob adolygiad ei grŵp cynghori ei hun, sy’n cynnwys aelodau o’r gymuned academaidd, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRBs) a myfyrwyr.  

Yn 2026-27, mae QAA yn adolygu'r pynciau canlynol:  

  • Cymraeg 
  • Dieteteg 
  • Digwyddiadau, Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth  
  • Deunyddiau 
  • Parafeddygaeth  
  • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (datganiad newydd) 
  • Gwaith Ieuenctid a Chymunedol 

Mae rhestr lawn o'r grwpiau cynghori a'u haelodaeth  ar gael ar ein gwefan.  


Meddai Dr Andy Smith, Rheolwr Ansawdd a Safonau QAA:  “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu eu hamser at y broses hon ac yn edrych ymlaen at barhau â’n cydweithrediad ar yr adolygiadau o’r Datganiadau Meincnod Pwnc dros y flwyddyn nesaf. Mae mewnwelediad ac ymrwymiad ein grwpiau cynghori yn hanfodol er mwyn cadw'r Datganiadau Meincnod Pwnc yn berthnasol ac yn ymarferol i'w cymunedau.”