Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf ar ymwneud â'r Gymraeg

Dyddiad: Ionawr 29 - 2024

Mae QAA Cymru yn falch o gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar ymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-23.

Mae'r adroddiad yn dangos sut mae QAA yn cyflawni ein hymrwymiadau i Safonau'r Gymraeg (Rheoliadau Rhif 2) 2016 o ran darparu gwasanaethau, gweithrediadau, llunio polisïau a chadw cofnodion. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad ehangach i’r Gymraeg a’i rôl mewn addysg uwch yng Nghymru. 

Mae ymrwymiad eang QAA i'r Gymraeg yn cynnwys hyfforddiant ar Safonau'r Gymraeg ac ymwybyddiaeth o’r iaith ar gyfer staff, yn ogystal â sefydlu Gweithgor y Gymraeg traws-sefydliadol.

Yn 2022-23, diweddarodd QAA y dull Adolygu Gwella Ansawdd a ariennir trwy drefniadau grant gyda CCAUC. Manteisiodd QAA ar y cyfle hwnnw i gryfhau'r ymrwymiad i'r Gymraeg yn y broses adolygu a'r llawlyfr, er enghraifft trwy gynnwys gwybodaeth yn y llawlyfr ar sut i godi cwynion am gydymffurfiaeth QAA â'r Gymraeg, a thrwy sicrhau bod adroddiadau drafft ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn 2022, cynhaliodd QAA hefyd sesiwn i’r holl staff ar godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg mewn addysg uwch ac addysg bellach; cyflwynwyd rhai o ganlyniadau’r cyfrifiad lefel uchel a gyhoeddwyd yn ddiweddar a rhannwyd gwybodaeth am Strategaeth Cymraeg 2050.

Nododd yr adroddiad hefyd, fel rhan o’r Prosiect Gwelliant Arsylwi Addysgu gan Gymheiriaid a ariennir gan CCAUC, y rhoddwyd ystyriaeth i sut mae argaeledd staff sy’n siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yn effeithio ar weinyddu a chyflwyno sesiynau arsylwi cymheiriaid trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r adroddiad, meddai Kathryn O’Loan, Cyfarwyddwr QAA dros yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon:

“Rydym yn falch o’n cynnydd parhaus wrth sicrhau bod ein gweithgareddau mor hygyrch â phosibl i siaradwyr Cymraeg y sector, gan gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein harferion i gefnogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector yng Nghymru yn 2024 i wneud hyn.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan.

Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022 -23 ar ymgysylltiad QAA â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ion 2024