Prifysgol Wrecsam yn cwblhau Adolygiad Gwella Ansawdd
Dyddiad: | Mai 6 - 2025 |
---|
Mae Prifysgol Wrecsam wedi cwblhau ei Hadolygiad Gwella Ansawdd yn llwyddiannus.
Mae gan Brifysgol Wrecsam hanes yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond fe’i sefydlwyd yn fwy diweddar fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008, cyn derbyn ei theitl presennol gan y Cyfrin Gyngor yn 2023. Yn y flwyddyn academaidd 2023-24, cyfanswm ei phoblogaeth myfyrwyr oedd 14,382.
Adolygiad Gwella Ansawdd yw'r dull a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) i adolygu darparwyr addysg uwch Cymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Mae Adolygiad Gwella Ansawdd yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cynorthwyo â gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Cynhaliwyd ymweliad adolygu Prifysgol Wrecsam ar 11-14 Chwefror 2024. Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o bedwar adolygydd annibynnol, gan gynnwys myfyriwr adolygydd.
Daeth y tîm i'r casgliad bod Prifysgol Wrecsam yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) 1 ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn diwallu gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Cadarnhaodd eu hadroddiad fod gan Brifysgol Wrecsam drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella ansawdd profiad myfyrwyr.
Roedd adroddiad yr adolygiad yn rhestru dwy ganmoliaeth ac un argymhelliad, ac yn nodi chwe maes o ddatblygiad parhaus.
Roedd yr adroddiad yn canmol Prifysgol Wrecsam am y canlynol:
- Dull strategol y Brifysgol o ddiwallu anghenion y rhanbarth, gan gynnwys y pwyslais ar gynwysoldeb ac ehangu mynediad, yn ogystal â hyrwyddo'r iaith Gymraeg, diwylliant ac economi Cymru.
- Y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y Brifysgol i integreiddio arferion cynhwysol a’r rhai sy’n seiliedig ar drawma a phrofiad plentyndod niweidiol ar draws cymorth academaidd, bugeiliol a dysgu, er mwyn galluogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial.
Roedd yr adroddiad yn argymell bod Prifysgol Wrecsam yn sicrhau bod trefniadau tiwtora personol yn cael eu gweithredu'n gyson er budd myfyrwyr.
Nododd hefyd, y canlynol fel meysydd o ddatblygiad parhaus:
- Y camau sy'n cael eu cymryd i gasglu barn myfyrwyr yn gyson ac yn gymesur er mwyn cynyddu ymgysylltiad ac adborth myfyrwyr;
- Y camau sy'n cael eu cymryd i barhau ag adolygu'r ddarpariaeth o ddeunyddiau llyfrgell digidol a diriaethol i fyfyrwyr;
- Y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod yr holl farciau ar gyfer cyrsiau byr yn cael eu cyflwyno i fwrdd asesu, ac yna’n cael eu hystyried o fewn yr amserlen a drefnwyd;
- Bod rôl Bwrdd y Llywodraethwyr o ran cymeradwyo a goruchwylio trefniadau partneriaeth academaidd yn cael ei hadolygu'n barhaus;
- Y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer cymeradwyo partneriaethau newydd a goruchwyliaeth effeithiol o ansawdd a safonau o fewn partneriaethau academaidd;
- Y camau sy’n cael eu cymryd i fonitro a goruchwylio’r trefniadau sydd ar waith i ddiogelu safonau academaidd, sicrhau ansawdd, a phrofiad myfyrwyr tra bod rhaglenni darpariaeth gydweithredol yn parhau i gael eu haddysgu neu’n cael eu dirwyn i ben.
Canfu'r adroddiad hefyd fod y cynllun gweithredu ar gyfer proses Ymchwilio i Bryderon 2022-23 wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
Meddai’r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae’r adroddiad rhagorol hwn a’r canmoliaethau sydd ynddo yn dyst i ymrwymiad diwyro Prifysgol Wrecsam i sicrhau lefelau uchel o ansawdd a safonau yn ein darpariaeth academaidd a’n ffocws ar wella ansawdd profiad y myfyrwyr.
“Rydym wrth ein bodd bod yr adolygwyr wedi cymeradwyo dau faes o ffocws strategol yn benodol. Mae’r cyntaf, sy’n ymwneud â’n hymagwedd at ddiwallu anghenion y rhanbarth, gan gynnwys pwyslais ar gynwysoldeb ac ehangu mynediad, a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn ogystal â diwylliant ac economi Cymru, yn arbennig o braf o ystyried ein hymrwymiad i’n datblygiad parhaus fel prifysgol ddinesig fodern, yn angor yng Nghymru ac yn esiampl i’n cymunedau a’r byd ehangach. Mae’r ail ganmoliaeth am ein gwaith ar integreiddio arferion cynhwysol a’r rhai sy’n seiliedig ar drawma a phrofiad plentyndod niweidiol ar draws holl feysydd y Brifysgol er mwyn galluogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial. Mae’r canmoliaethau hyn yn cydnabod ein hymagwedd sy’n seiliedig ar werthoedd a’n hymrwymiad diwyro i sicrhau ein bod yn darparu’r addysg a’r gwasanaethau gorau posibl i’n holl fyfyrwyr, partneriaid a chymunedau.
“Mae canlyniad yr adolygiad hwn yn ailgadarnhau ein trefniadau cadarn i sicrhau ansawdd academaidd, ac mae’n destament i’n staff am eu hymdrechion rhagorol i wreiddio a chynnal safonau uchel. Hoffwn ddiolch i’r holl staff, partneriaid, ein Hundeb Myfyrwyr a myfyrwyr a gymerodd ran yn ein cyflwyniad ar gyfer yr Adolygiad a'r ymweliad ym mis Chwefror. A hoffwn hefyd ddiolch i'r panel adolygu am eu hadroddiad ystyriol. Rydym yn croesawu eu hadborth a'u hunig argymhelliad ar gyfer gwelliant; rydym yn mynd i’r afael â hwn trwy ein Cynllun Gweithredu’r Adolygu Gwella Ansawdd."