Prifysgol Caerdydd yn cwblhau Adolygiad Gwella Ansawdd
| Dyddiad: | Mai 21 - 2026 |
|---|
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cwblhau ei Hadolygiad Gwella Ansawdd (QER) yn llwyddiannus.
Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883 ac mae wedi bodoli yn ei ffurf bresennol ers 2005. Mae'n brifysgol gynhwysfawr, sy'n ddwys o ran ymchwil ac yn aelod o Grŵp Russell. Mae'r Brifysgol wedi'i threfnu'n dri Choleg (Y Celfyddydau, y Dyniaethau, a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a'r Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg), sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 24 Ysgol, a fydd yn lleihau i 16 o 2026-27. Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol bedair partneriaeth addysgol a addysgir. Mae un bartneriaeth yn Tsieina yn arwain at ddyfarniad dwbl ac mae'n weithredol, tra bod y tair partneriaeth sy'n weddill yn cynnwys trefniadau rhyddfraint â thri phartner academaidd yng Nghymru. Mae dwy o'r partneriaethau rhyddfraint yn y cyfnod lle cânt eu dirwyn i ben, ac mae un yn cael ei hadolygu.
Yr Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) yw'r dull a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) i adolygu darparwyr addysg uwch Cymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Mae’r Adolygiad Gwella Ansawdd yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cynorthwyo â gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Medr, y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.
Cynhaliwyd ymweliad adolygu Prifysgol Caerdydd ar 2-5 Mawrth 2026. Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o bedwar adolygydd annibynnol, gan gynnwys myfyriwr adolygydd.
Daeth y tîm i'r casgliad bod Prifysgol Caerdydd yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a'r Canllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn diwallu gofynion rheoleiddio sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Cadarnhaodd eu hadroddiad fod gan Brifysgol Caerdydd drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd ac ar gyfer gwella ansawdd profiad y myfyrwyr.
Rhestrodd adroddiad yr adolygiad un ganmoliaeth ac un argymhelliad, yn ogystal â nodi tri maes o ddatblygiad parhaus.
Canmolodd yr adroddiad Brifysgol Caerdydd am effeithiolrwydd ei Hacademi Dysgu ac Addysgu fel cyfrwng sefydliadol ar gyfer gwella dysgu ac addysgu.
Argymhellodd yr adroddiad y dylai Prifysgol Caerdydd gryfhau mecanweithiau llais myfyrwyr fel bod pwrpas cynrychiolaeth yn cael ei ddeall yn glir, bod strwythurau cymorth i gynrychiolwyr yn gyson, a bod ymgysylltu â chorff ehangach y myfyrwyr yn effeithiol.
Nododd yr adroddiad hefyd, fel meysydd o ddatblygiad parhaus, yr angen i'r Brifysgol wneud y canlynol:
- gwreiddio mentrau Deallusrwydd Artiffisial i helpu â sicrhau eu heffeithiolrwydd llawn;
- cryfhau diwylliant 'un Brifysgol' ar draws y sefydliad i wella aliniad, sicrhau cysondeb, lleihau darnio a gwreiddio bwriad uwch arweinwyr i greu sefydliad cydlynol;
- parhau i fonitro'r trefniadau ar gyfer rheoli darpariaeth partneriaethau tramor, gan gydnabod bod y partneriaethau hyn yn dal i fod yn eu camau cynnar a chynnal ymagwedd strwythuredig a chyson at oruchwylio fel y gellir nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg yn brydlon a'u lliniaru'n effeithiol.
Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd â'r canlyniad cadarnhaol i'r Adolygiad Gwella Ansawdd sy'n rhoi sicrwydd ein bod yn cydymffurfio â'n gofynion rheoleiddio a bod gennym arferion effeithiol ar waith ar gyfer rheoli ansawdd a safonau academaidd. Mae'r adroddiad yn crynhoi rhywfaint o'r gwaith gwych rydym wedi'i wneud i wella profiad y myfyrwyr, yn ogystal â nodi meysydd i ni eu cryfhau ymhellach wrth i ni weithio gyda'n myfyrwyr i gyflawni'r uchelgais yn ein strategaeth, 'Ein Dyfodol, Gyda'n Gilydd'.
Mae adroddiad QER Prifysgol Caerdydd ar gael ar wefan QAA yn: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/reports/qer-prifysgol-caerdydd-mawrth-2026.pdf