Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Prifysgol Abertawe yn cwblhau Adolygiad Gwella Ansawdd

Dyddiad: Gorffennaf 23 - 2026

Mae Prifysgol Abertawe wedi cwblhau ei Hadolygiad Gwella Ansawdd (QER) yn llwyddiannus.

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe yn 1920, ac mae ei chyfeiriad strategol heddiw yn seiliedig ar bum colofn allweddol: 'Ein Cenhadaeth Ddinesig', 'Profiad Ein Myfyrwyr', 'Ein Dysgu ac Addysgu', 'Ein Hymchwil' ac 'Ein Menter'. Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol 26 o bartneriaethau addysgu gweithredol. Mae naw o'r partneriaethau hyn, wyth ohonynt dramor, yn cynnig dyfarniadau dwbl, deuol neu ar y cyd. Mae trefniadau cydweithredol eraill yn cynnwys darparu prentisiaethau gradd ar y cyd â dau goleg addysg bellach yng Nghymru a darpariaeth trwy ryddfraint.

Yr Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) yw'r dull a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) i adolygu darparwyr addysg uwch Cymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Mae’r Adolygiad Gwella Ansawdd yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cynorthwyo â gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Medr, y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.

Cynhaliwyd ymweliad adolygu Prifysgol Abertawe ar 12-14 Mai 2026. Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o bedwar adolygydd annibynnol, gan gynnwys myfyriwr adolygydd.

Daeth y tîm adolygu i'r casgliad bod Prifysgol Abertawe yn bodloni gofynion Rhan 1 y Safonau a'r Canllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn bodloni gofynion rheoleiddio sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Cadarnhaodd eu hadroddiad fod gan Brifysgol Abertawe drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella ansawdd profiad y myfyrwyr.

Rhestrodd yr adroddiad ar yr adolygiad dair canmoliaeth, un argymhelliad ac un maes o ddatblygiad parhaus.

Canmolodd yr adroddiad Brifysgol Abertawe am y canlynol:

  • Sut aeth y Brifysgol ati i Drawsnewid y Cwricwlwm ar draws y sefydliad, a sefydlodd fframwaith cydlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ailgynllunio'r holl raglenni a addysgir i wella profiad dysgu cyffredinol y myfyrwyr.
  • Y ffordd y mae gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol, cydweithwyr academaidd a myfyrwyr wedi gweithio mewn partneriaeth i wella profiad y myfyrwyr.
  • Mentrau cyflogadwyedd y Brifysgol sy'n cyfrannu at wella parodrwydd myfyrwyr ar gyfer gyrfa.

Argymhellodd yr adroddiad y dylai Prifysgol Abertawe adolygu ei chanllawiau a'i harferion ynghylch amgylchiadau esgusodol er mwyn cael gwared ar amwysedd a sicrhau mwy o eglurder a chysondeb i bob myfyriwr.

Nodwyd hefyd, fel maes o ddatblygiad parhaus, y camau sy'n cael eu cymryd i gryfhau cysondeb canllawiau ac arferion sy'n ymwneud â'r defnydd a ganiateir o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn gwaith a asesir ar draws y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Rwyf wrth fy modd â chanlyniadau'r Adolygiad Gwella Ansawdd, sy'n cadarnhau bod Prifysgol Abertawe yn bodloni gofynion Rhan 1 ESG a'r gofynion rheoleiddio sylfaenol ar gyfer Cymru.

"Mae'r broses Adolygu wedi bod yn hynod adeiladol a gwerthfawr i'n sefydliad, gan ddangos cadernid ein safonau academaidd a'n trefniadau sicrhau ansawdd, yn ogystal ag arddangos y diwylliant sy'n cael ei arwain gan welliant sy'n sail i'n dull o addysgu a phrofiad y myfyrwyr.

"O ystyried ein hymrwymiad sefydliadol hirhoedlog i bartneriaeth a chydweithio, roeddwn yn arbennig o falch o weld y Tîm Adolygu yn cydnabod y bartneriaeth bwerus rhwng ein staff academaidd, cydweithwyr gwasanaethau proffesiynol, Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr. Rydym yr un mor falch o'r ganmoliaeth i’n rhaglen Trawsnewid y Cwricwlwm ar draws y brifysgol a'n blaenoriaethau Cyflogadwyedd, sy'n sicrhau bod ein myfyrwyr yn ein gadael â'r sgiliau, yr hyder a'r profiad sydd eu hangen i fod yn wirioneddol barod am waith."

Mae adroddiad llawn ar QER Prifysgol Abertawe ar gael ar ein gwefan