Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae QAA wedi cwblhau cyhoeddi Cynghorion a Chanllawiau ar gyfer y Côd Ansawdd

Dyddiad: Medi 23 - 2026

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cwblhau cyhoeddi eu casgliadau o Gynghorion a Chanllawiau i gynorthwyo â rhoi’r fersiwn ddiweddaraf o Gôd Ansawdd Addysg Uwch y DU ar waith.

Cyhoeddwyd argraffiad cyfredol y Côd Ansawdd ym mis Mehefin 2024, yn dilyn proses helaeth o ymgysylltu, cyd-greu ac ymgynghori â chydweithwyr o bob cwr o'r sector. Ers hynny, mae’r broses o roi pob un o egwyddorion y Côd ar waith wedi cael ei chynorthwyo trwy gyhoeddi casgliad o Gynghorion a Chanllawiau, wedi'u mapio i’w arferion allweddol cysylltiedig. Cyhoeddwyd y tri cyntaf o'r rhain yn haf 2025; mae'r naw sy'n weddill wedi'u cyhoeddi heddiw.

Roedd y casgliadau o’r Cynghorion a Chanllawiau a gyhoeddwyd yn 2025 yn ymdrin â’r egwyddorion canlynol o’r Côd Ansawdd:

  • Egwyddor 1 - Mabwysiadu ymagwedd strategol at reoli ansawdd a safonau
  • Egwyddor 2 - Cynnwys myfyrwyr fel partneriaid
  • Egwyddor 8 - Gweithredu partneriaethau gyda sefydliadau eraill

Mae’r casgliadau o’r Cynghorion a Chanllawiau a gyhoeddwyd ar 23ain Medi 2026 bellach yn ymdrin â’r egwyddorion canlynol o’r Côd Ansawdd:

  • Egwyddor 3 - Darparu adnoddau ar gyfer profiad dysgu o ansawdd uchel
  • Egwyddor 4 - Defnyddio data i lywio a gwerthuso ansawdd
  • Egwyddor 5 - Monitro, gwerthuso a gwella'r ddarpariaeth
  • Egwyddor 6 - Ymwneud ag adolygu ac achredu allanol
  • Egwyddor 7 - Cynllunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu rhaglenni
  • Egwyddor 9 - Recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr      
  • Egwyddor 10 - Cynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu potensial
  • Egwyddor 11 - Addysgu, dysgu ac asesu
  • Egwyddor 12 - Gweithredu prosesau ar gyfer pryderon, cwynion ac apeliadau

Mae QAA wedi hwyluso a churadu'r dogfennau hyn sy'n eiddo i'r sector, a ysgrifennwyd gan arbenigwyr o bob rhan o AU y DU, ac a gynlluniwyd i gynrychioli amrywioldeb a chydgyfeirio safbwyntiau a rennir ac arferion effeithiol y mae'r sector yn eu cwmpasu, yn ogystal â mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu addysg uwch heddiw.

Meddai Dr Andy Smith, Rheolwr Ansawdd a Safonau yn QAA: "Mae'r Côd Ansawdd yn crynhoi set o egwyddorion sy'n ein hatgoffa o’r hyn sy'n bwysig, a beth rydym yn ei wneud orau, mewn cyfnodau o newid, cyfle ac argyfwng. Mae'n gweithredu fel cyfeirbwynt cyffredin i bob darparydd addysg uwch, waeth beth fo'u maint, eu hanes neu eu proffil. Mae'n mynegi ein synnwyr o werth a gwerthoedd, ac yn cynrychioli adnodd a ffocws a rennir – ynghyd â chwlwm cyffredin – y gallwn eu defnyddio i wella ansawdd a sicrhau safonau ar ran y myfyrwyr sydd wrth galon system addysgol wirioneddol drawsnewidiol."

Meddai Chloe Hastings, Rheolwr Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Ulster, ac aelod o'r grŵp ysgrifennu ar gyfer Egwyddor 4: "Mae'r Côd Ansawdd yn un o'n cyfeirbwyntiau pwysicaf ar gyfer cynnal safonau ac ansawdd, ac ar gyfer cydnabod ble mae yna le i wella." Mae'r Cynghorion a'r Canllawiau yn hanfodol o ran rhoi'r Côd Ansawdd ar waith: mae'n ein helpu i ddeall ble rydym ni'n sefyll mewn perthynas â'r sector ehangach mewn meysydd allweddol ac yn gosod meincnod clir ar gyfer arfer gorau y gallwn weithio tuag ato.

Meddai Emma Wingate, Rheolwr Cydweithredu Academaidd ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, ac aelod o'r grŵp ysgrifennu ar gyfer Egwyddor 6: "Bydd y Cynghorion a'r Canllawiau hyn yn gyfeirnod defnyddiol wrth ddatblygu polisïau, fframweithiau a dogfennau eraill sy'n ymwneud ag adolygiadau allanol neu weithio gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol." Byddaf yn eu defnyddio fel gwiriad synnwyr i sicrhau bod fy null o weithredu’n alinio ag arfer yn y sector ehangach ac i nodi unrhyw feysydd y gallwn fod wedi'u hanwybyddu. Mae'n ffordd effeithiol o adeiladu dogfennau ar sylfaen gadarn a lleihau'r angen am adolygiadau sylweddol yn ddiweddarach."

Meddai Dr Nina van Gessel, Rheolwr Sicrhau Ansawdd yng Ngholeg y Brenin Llundain, ac aelod o'r grŵp ysgrifennu ar gyfer Egwyddor 7: "Mewn cyfnod o newid sylweddol mewn addysg uwch, mae'r Côd Ansawdd yn parhau i fod yn ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer arweiniad a chefnogaeth. Trwy’r Cynghorion a’r Canllawiau newydd, rwy’n hyderus bod gen i fynediad at wybodaeth sy’n gyfredol, yn gynhwysfawr ac wedi’i chyflwyno mewn modd hygyrch."

Meddai Ryan Girdley, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu’r Ysgol ac Arweinydd Sicrhau Ansawdd yn Ysgol Fusnes Ryngwladol Lincoln, ac aelod o’r grŵp ysgrifennu ar gyfer Egwyddor 11: "Mae Egwyddor 11 [Addysgu, dysgu ac asesu] yn arbennig o werthfawr wrth i ni ymateb i'r cyfleoedd a'r heriau a ddaw yn sgil AI mewn addysg uwch… Ar ôl ailgynllunio asesiadau yn ddiweddar i gynnwys AI ac asesu dilys, rwy'n ei weld fel fframwaith ymarferol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus, sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth gynnal safonau academaidd." Y tu hwnt i gefnogi penderfyniadau unigol, mae'r cynghorion yn annog dull mwy meddylgar a myfyriol o addysgu, dysgu ac asesu. Yn hytrach na darparu atebion rhagnodol, mae'n annog ystyriaeth o ffactorau fel profiad, gallu a hyder y myfyriwr, hygyrchedd a chynhwysiant, uniondeb academaidd a sicrhau ansawdd cyn gweithredu newid. Mae hefyd yn darparu fframwaith a rennir ar gyfer cydbwyso arloesedd â safonau academaidd, gan helpu i sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio'n bwrpasol i wella dysgu a datblygu'r sgiliau digidol sydd eu hangen ar fyfyrwyr y tu hwnt i'r brifysgol.