Mae cyrff ledled y DU yn annog prifysgolion i ymuno â Chynllun Ansawdd ADW y DU QAA
| Dyddiad: | Mehefin 15 - 2026 |
|---|
Mae cyrff cyhoeddus, cyrff cynrychioli a grwpiau cenhadaeth wedi dod ynghyd ar draws sector addysg uwch y DU i gefnogi Cynllun Ansawdd Addysg Draws-wladol (ADW) newydd y DU gan QAA.
Wedi'i ddatblygu trwy ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid ar draws y sector addysg uwch, ac mewn ymateb i'r ffocws newydd ar Addysg Draws-wladol yn Strategaeth Addysg Ryngwladol y Llywodraeth, daw fersiwn newydd o gynllun ADW QAA i rym ym mis Awst.
Wedi'i gomisiynu'n wreiddiol gan sefydliad Prifysgolion y DU (UUK) a GuildHE yn 2021, mae'r cynllun wedi cynnwys mwy na 70 o ddarparwyr yn y DU sy'n cynnig darpariaeth addysg draws-wladol hyd yn hyn.
Mae'r fersiwn newydd – Cynllun Ansawdd ADW y DU – wedi'i gomisiynu'n ffurfiol gan sefydliad Prifysgolion y DU (UUK), GuildHE ac Independent HE, ac fe'i cefnogir gan University Alliance a MillionPlus.
Mae'r Cynllun newydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan gyrff cyhoeddus ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan annog darparwyr i gymryd rhan.
Mae'r Adran Addysg yn Lloegr yn cefnogi'r cynllun, ac mae Cyngor Cyllido'r Alban, Medr ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon hefyd wedi cymeradwyo'r cynllun.
Mae'r cynllun newydd yn darparu cefnogaeth ymarferol i ddarparwyr addysg uwch yn y DU i gyflwyno addysg draws-wladol o ansawdd uchel ledled y byd trwy ddysgu gan gymheiriaid, mewnwelediad polisi, cyngor ar ansawdd a hyfforddiant staff. Mae'n cefnogi gwelliant parhaus mewn ansawdd addysg draws-wladol, gan ddangos ymrwymiad sector y DU i gyflwyno ADW o ansawdd uchel i fyfyrwyr ledled y byd.
Daw lansiad y cynllun wrth i QAA gael ei enwi'n aelod ymgynghorol o Grŵp Gweithredu Sector Addysg Llywodraeth y DU. Mae’r Grŵp Gweithredu’n dwyn ynghyd y diwydiant, y llywodraeth a chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector addysg i weithredu'r weledigaeth a amlinellir yn Strategaeth Addysg Ryngwladol y Llywodraeth.
Meddai Prif Weithredwr QAA, Karl Leydecker: "Mae'r fersiwn newydd o'n Cynllun Addysg Draws-wladol wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â'r heriau sy'n dod i'r amlwg ac a fydd yn wynebu addysg draws-wladol y DU yn y dyfodol mewn tirwedd AU fyd-eang sy'n newid yn gyflym. Rydym yn ddiolchgar i'r holl gyrff llywodraethol, rheoleiddiol a sector hynny sydd, ar draws pedair gwlad y DU, wedi cydnabod gwerth a phwysigrwydd y dull hwn o sicrhau a gwella ansawdd, enw da a chynaladwyedd ADW y DU ledled y byd. Rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u cyngor, ac am eu craffter strategol wrth ddeall a dangos sut mae sector y DU ar ei fwyaf gwydn a deinamig pan fydd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r ansawdd uchaf i'w fyfyrwyr a'i randdeiliaid yn ei ddarpariaeth gartref a thramor.
Dywedodd yr Adran Addysg yn Lloegr: “Mae Adran Addysg Lloegr (DfE) yn cefnogi Cynllun Ansawdd Addysg Draws-wladol y DU gan QAA fel ffordd o gryfhau ansawdd ADW a gyflwynir gan ddarparwyr yn Lloegr, gan adlewyrchu blaenoriaethau Strategaeth Addysg Ryngwladol Llywodraeth y DU. Mae'n annog darparwyr addysg uwch yn Lloegr sy'n ymwneud ag ADW i ymgysylltu â'r cynllun.
Meddai Cyngor Cyllido’r Alban: "Rydym yn cydnabod bod newidiadau sylweddol wedi bod yn y ddarpariaeth o addysg draws-wladol yn y DU, a bod y ddarpariaeth honno wedi ehangu dros oes y cynllun blaenorol, ochr-yn-ochr â newidiadau i bolisi ac arfer Addysg Uwch, ac mae'n rhaid ystyried pob un o'r rhain wrth ddylunio'r cynllun newydd." Rydym yn croesawu ffocws y cynllun newydd ar welliant ac yn cydnabod budd y dull hwn i brifysgolion."
Dywedodd Medr, y Comisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru: "Mae Medr yn cymeradwyo Cynllun Ansawdd Addysg Draws-wladol QAA fel mecanwaith pwysig sy'n cynorthwyo â chyflwyno addysg draws-wladol o ansawdd uchel gan ddarparwyr Cymru." Fel rhan o hyn, bydd addysg uwch Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y cynllun, gan adeiladu ar y fenter flaenorol i wella ansawdd ADW.
Meddai Adran Economi Gogledd Iwerddon: "Mae Adran yr Economi yn cymeradwyo Cynllun Ansawdd Addysg Draws-wladol QAA ar ei newydd wedd fel mecanwaith pwysig sy'n cefnogi cyflwyno addysg draws-wladol o ansawdd uchel gan ein darparwyr addysg uwch lleol." Mae'r Adran yn annog ei darparwyr sy’n ymwneud ag addysg draws-wladol i ymgysylltu â'r cynllun.
Hefyd cyhoeddodd Adran yr Economi Gogledd Iwerddon ddatganiad gweinidogol: “Mae’r cynllun Addysg Draws-wladol yn gyfle arwyddocaol i’n sector Addysg Uwch arddangos ei gryfderau ar lwyfan byd-eang. Trwy gynorthwyo ag addysg o ansawdd uchel dramor, mae ADW yn helpu i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, ysgogi datblygiad sgiliau ac atgyfnerthu ein henw da am ragoriaeth academaidd. Mae hefyd yn darparu manteision economaidd a diwylliannol pendant yma, gan helpu ein sefydliadau i dyfu, arloesi a pharhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang.”
Dywedodd MillionPlus: "Mae MillionPlus yn falch o fod yn gefnogwyr cynllun Addysg Draws-wladol QAA. Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan bwysig wrth wella ansawdd ADW y DU ac yn helpu i atgyfnerthu enw da rhyngwladol y sector fel partneriaid addysg uwch y gellir ymddiried ynddynt.
Meddai University Alliance: "Mae University Alliance yn croesawu Cynllun Ansawdd Addysg Draws-wladol QAA fel cam pwysig wrth gryfhau hyder byd-eang yn ADW y DU." Bydd cefndir cryf ein haelodau mewn addysg draws-wladol o ansawdd uchel, ag iddi ffocws proffesiynol, yn cael ei ategu gan gynllun clir sy'n annog rhagoriaeth er budd myfyrwyr a phartneriaid.
Fel y cyrff comisiynu ar gyfer Cynllun Ansawdd ADW y DU, ysgrifennodd sefydliad Prifysgolion y DU, GuildHE ac Independent HE y canlynol yn eu llythyr comisiynu at QAA:
"Mae llwyddiant parhaus ADW y DU, a chynaladwyedd ei thwf, yn seiliedig ar ei henw da am ansawdd. Mae'r enw da hwn yn cael ei gydnabod gan fyfyrwyr a'u teuluoedd, a chan reoleiddwyr ac asiantaethau tramor, a dyna sy'n gwneud sefydliadau addysg uwch y DU yn bartneriaid o ddewis yn rhyngwladol. Dyna pam nad yw gweithredu gweladwy, ledled y DU, a dan arweiniad y sector, i ddiogelu a gwella ansawdd ADW y DU erioed wedi bod yn bwysicach, yn enwedig yng ngoleuni Strategaeth Addysg Ryngwladol y Llywodraeth ar ei newydd wedd sy'n amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer twf Addysg Ryngwladol.
"Yn dilyn cylchred cyntaf llwyddiannus cynllun Gwerthuso a Gwella Ansawdd Addysg Draws-wladol y DU (QE-TNE), a gomisiynwyd gyntaf gan UUK a GuildHE yn 2020, rydym yn ysgrifennu i ailddatgan ein hymrwymiad i gynllun QAA ar gyfer cefnogi a gwella ansawdd addysg draws-wladol y DU.
"Fel cyrff cynrychioli yn sector addysg uwch y DU, mae Prifysgolion y DU (UUK), GuildHE, ac Addysg Uwch Annibynnol (IHE) yn comisiynu QAA yn ffurfiol i barhau â chyflwyno Cynllun ADW y DU."
"Fel cyrff comisiynu, bydd UUK, GuildHE, ac IHE, yn cydweithio'n agos â QAA i gefnogi ymgysylltiad cryf gan y sector a sicrhau bod y cynllun yn ymestyn mor eang â phosibl o fewn sector addysg uwch y DU. Byddwn hefyd yn chwarae rhan weithredol trwy Gyngor Ymgynghorol y Cynllun i lunio ei ddatblygiad parhaus a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gydnaws ag anghenion y sector yn y dyfodol. Rydym yn cymeradwyo'r cynllun i'n haelodau fel ffordd bwysig a gwerthfawr o ddangos ymrwymiad sector y DU i ADW o ansawdd uchel, ac yn eu hannog i gymryd rhan ynddo."
Meddai Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Pholisi Rhyngwladol QAA, Shannon Stowers: "Mae Cynllun Ansawdd ADW y DU wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn gost-effeithiol wrth iddo ddiwallu anghenion a heriau gweithgareddau traws-wladol cyfoes. Mae hefyd yn diogelu dulliau ar gyfer ansawdd darpariaeth draws-wladol y Deyrnas Unedig ar gyfer y dyfodol am flynyddoedd i ddod, mewn tirwedd addysg uwch fyd-eang sy'n tyfu'n gyflym, yn newid yn gyflym ac yn ddeinamig."
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a chyrff eraill yn y sector i gyfrannu at oruchwyliaeth strategol ar gyfer cyflwyno Strategaeth Addysg Ryngwladol y DU."