Mae adroddiad QAA Cymru yn ystyried boddhad myfyrwyr mewn pynciau sy'n peri pryder
| Dyddiad: | Mehefin 25 - 2026 |
|---|
Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno o Adolygiad Thematig o Bynciau (AThB) a gomisiynwyd gan Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, oedd yn rhoi ystyriaeth i effeithiolrwydd ymatebion ar draws nifer o sefydliadau i sgoriau boddhad isel yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) dros dair blynedd neu fwy yn ôl meysydd pwnc penodol.
Cynhaliwyd yr AThB gan dîm o bedwar adolygydd arbenigol annibynnol, gan gynnwys adolygydd oedd yn fyfyriwr, ac roedd yn cynnwys cyfres o ymweliadau undydd â safleoedd sefydliadau oedd yn cymryd rhan ym mis Mawrth 2026.
Nododd yr adolygiad mai staffio academaidd yw'r ffactor syn cael yr effaith fwyaf ar foddhad myfyrwyr, ac felly gall swyddi gwag ac absenoldebau hir gael effaith negyddol ar brofiad myfyrwyr. Serch hynny, canfu, er gwaethaf problemau parhaus o ran capasiti staffio, fod sefydliadau a thimau rhaglenni wedi parhau i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â materion penodol sy'n deillio o'r ACF.
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at faterion fel y ddarpariaeth o adnoddau dysgu, cydlyniant rhaglenni ac amserlennu fel ffactorau arwyddocaol sy’n effeithio ar foddhad myfyrwyr.
Canfu yn y meysydd pwnc dan sylw fod nifer o sefydliadau’n mynd i’r afael ag anawsterau tebyg, ac er gwaethaf ymdrechion gorau eu cynlluniau gweithredu nad oedd eu sgoriau yn yr ACF wedi gwella mor gyflym ag y byddai'r sefydliadau wedi'i ddisgwyl. Fodd bynnag, nododd yr adroddiad fod agweddau ar brofiad y myfyrwyr megis ymgysylltu â diwydiant a chyflogwyr, achrediad proffesiynol a chefnogaeth gan wasanaethau proffesiynol yn gweithio'n dda ac yn cael eu gwerthfawrogi gan fyfyrwyr.
Adroddodd sefydliadau fod sicrhau ymgysylltiad gweithredol myfyrwyr mewn mecanweithiau llais myfyrwyr wedi bod yn broblem barhaus, er gwaethaf ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ac amrywiaeth o gyfleoedd gwahanol i ymgysylltu. Serch hynny, mae nifer o sefydliadau a oedd yn rhan o'r adolygiad wedi cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr, yn enwedig lle mae myfyrwyr wedi cael eu cyflogi i weithredu fel hyfforddwyr myfyrwyr neu swyddogion ymgysylltu.
Mae adroddiad yr AThB yn cyflwyno set o argymhellion ar gyfer Medr ac i’r sector yn fwy cyffredinol o ran darparu cefnogaeth i feysydd pwnc y mae eu canlyniadau yn yr ACF yn gyson islaw'r trothwy disgwyliadau. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer mentrau rhannu arferion, egluro gofynion mewn perthynas â phrosesau cynllunio ar gyfer gweithredu, a chyfleoedd i fyfyrio'n feirniadol ar effeithiau ymyriadau.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan QAA.