Lansio adnodd hunanwerthuso newydd
| Dyddiad: | Mehefin 4 - 2026 |
|---|
Wedi'i ariannu gan Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, mae prosiect ar y cyd rhwng QAA Cymru ac Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi lansio gwefan newydd i gynorthwyo darparwyr i gryfhau hunanwerthuso effeithiol yn eu harfer addysgol.
Mae'r teclyn ymarferol newydd hwn yn nodi set o egwyddorion allweddol sy'n sail i hunanwerthuso ac yn arddangos dulliau effeithiol a ddefnyddir gan ddarparwyr addysg drydyddol i ddatblygu a gwreiddio diwylliant cryf o hunanwerthuso a gwelliant parhaus.
Nod y prosiect yw hybu a galluogi perfformiad ar bob lefel ar draws addysg drydyddol yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a rennir rhwng Estyn a QAA.
Dywedodd Maureen McLaughlin, Pennaeth Cymru, Gogledd Iwerddon a Goruchwyliaeth Addysgol, QAA: "Mae ein cydweithrediad ag Estyn ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle cyffrous a chynhyrchiol i rannu a dysgu o arfer effeithiol ar draws sector trydyddol Cymru. Rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cynnig adnodd gwerthfawr i hyrwyddo a chryfhau gwerthuso a gwella darpariaeth ar draws ein sector cyfan yma yng Nghymru – a bydd hefyd o ddiddordeb a defnydd i'n cydweithwyr ledled y DU a thu hwnt."
Ychwanegodd Dr Steve Bell o Estyn, Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru: "Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r cydweithrediad cyntaf hwn a ariennir gan Medr rhwng QAA ac Estyn sydd â’r nod o ddod â dealltwriaeth gyffredin o hunanwerthuso a chynllunio gwelliant ar draws y system drydyddol yng Nghymru ynghyd. Rydym wedi dylunio'r wefan i gynnig cefnogaeth ymarferol i ddarparwyr a thimau cyflwyno, ac edrychwn ymlaen at ychwanegu astudiaethau achos ac adnoddau pellach yn y misoedd nesaf."
I gael rhagor o wybodaeth am Hunanwerthuso Effeithiol a Gwelliant Parhaus yn y Sector Trydyddol yng Nghymru, ewch i wefan y prosiect.