Galwad am gyflwyniadau: Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA 2025 a ariennir gan Medr
Dyddiad: | Ebrill 28 - 2025 |
---|
Heddiw mae QAA wedi agor galwad am gynigion ar gyfer Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA (RhUAC) a ariennir gan Medr. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein gan QAA mewn partneriaeth â RhUAC ddydd Mercher 4 Mehefin, rhwng 10:00 a 13:30 BST. Dyma'r trydydd symposiwm i’r Rhwydwaith ei chynnal, a bydd yn adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol.
Sefydlwyd RhUAC ym mis Medi 2021 trwy drefniadau grant gyda CCAUC ac mae’n cynrychioli ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru i gryfhau uniondeb academaidd, hyrwyddo arfer asesu cynhwysol a diledryw, a brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd. Sylfaen y Rhwydwaith yw Siarter Uniondeb Academaidd QAA, dogfen y mae holl brifysgolion Cymru wedi’i llofnodi.
Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU. Mae’r aelodaeth ehangach yn cynrychioli staff, myfyrwyr a dysgwyr o bob darparydd addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, sy’n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, ac UCM Cymru. Mae’r Rhwydwaith yn agored i bob darparydd addysg drydyddol yng Nghymru.
Bydd y symposiwm sydd i ddod yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith, a byddem yn gwerthfawrogi’n arbennig gynigion gan ddarparwyr addysg drydyddol ar:
- arfer asesu cynhwysol a diledryw
- asesu digidol
- arfer arloesol mewn deallusrwydd artiffisial
- myfyrwyr a dysgwyr fel cyd-grewyr asesu
- y Gymraeg ac uniondeb academaidd.
Croesewir cynigion gan ddarparwyr addysg drydyddol ledled y DU, ac yn rhyngwladol. Dylid cyflwyno pob cynnig trwy ein ffurflen ar-lein, sydd hefyd yn cynnwys mwy o wybodaeth am y digwyddiad. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Llun 12 Mai 09:30.
Croesewir cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad nawr ar gael.