Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Galwad am gyflwyniadau: Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA 2024 a ariennir gan CCAUC

Dyddiad: Chwefror 6 - 2024

Heddiw mae QAA wedi agor galwad am gynigion ar gyfer Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA (RhUAC) a ariennir gan CCAUC. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein gan QAA mewn partneriaeth â RhUAC ddydd Iau 6ed Mehefin, rhwng 9:00 a 17:00 BST. Dyma'r ail symposiwm i’r Rhwydwaith ei chynnal, a bydd yn adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad cyntaf ym Mehefin 2023.

Sefydlwyd RhUAC ym mis Medi 2021 trwy drefniadau grant gyda CCAUC ac mae’n cynrychioli ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru i gryfhau uniondeb academaidd, hyrwyddo arfer asesu cynhwysol a diledryw, a brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd. Sylfaen y Rhwydwaith yw Siarter Uniondeb Academaidd QAA, dogfen y mae holl brifysgolion Cymru wedi’i llofnodi

Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU. Mae’r aelodaeth ehangach yn cynrychioli staff, myfyrwyr a dysgwyr o bob darparydd addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, sy’n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, ac UCM Cymru. O 2023-24 ymlaen, mae’r Rhwydwaith yn agored i bob darparydd addysg drydyddol yng Nghymru, gan adlewyrchu’r newid i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) newydd.

Bydd y symposiwm sydd i ddod yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith, a byddem yn gwerthfawrogi’n arbennig gynigion gan ddarparwyr addysg drydyddol ar:

  • arfer asesu cynhwysol a diledryw
  • asesu digidol
  • arfer arloesol mewn deallusrwydd artiffisial
  • myfyrwyr a dysgwyr fel cyd-grewyr asesu
  • y Gymraeg ac uniondeb academaidd.

Meddai’r Athro Draper: 'Daw llwyddiant RhUAC o ymrwymiad i Siarter Uniondeb Academaidd QAA a rhannu ymagwedd effeithiol a diledryw at hyrwyddo uniondeb academaidd. Mae'r gymuned ymarfer hon yn galluogi cydweithwyr, myfyrwyr a dysgwyr i lywio heriau allweddol yn y maes hwn gyda'i gilydd.'  

Dywedodd Dr Reddy: ‘Mae’r symposiwm sydd i ddod yn gyfle i academyddion, myfyrwyr, dysgwyr a staff ym maes ansawdd ar draws y sector trydyddol rannu arfer ar rai o’r heriau presennol ac arfer arloesol ym maes asesu, uniondeb academaidd a’i effaith ar fyfyrwyr a dysgwyr heddiw ac yn y dyfodol'. 

Croesewir cynigion gan ddarparwyr addysg drydyddol ledled y DU, ac yn rhyngwladol. Dylid cyflwyno pob cynnig trwy ein ffurflen ar-lein, sydd hefyd yn cynnwys mwy o wybodaeth am y digwyddiad. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 10 Ebrill am 17.00.

Mae'r Rhwydwaith hefyd yn chwilio am aseswyr ychwanegol i gynorthwyo â'r gwaith o ddethol cynigion a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i'r digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth a/neu gyflwyno datganiad o ddiddordeb, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 15 Mawrth am 17.00.

Croesewir cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad nawr ar gael.