Dyfodol Addysg Drydyddol yng Nghymru
| Dyddiad: | Mawrth 30 - 2026 |
|---|
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cyhoeddi eu hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru.
Mae ein hymateb yn pwysleisio, er mwyn hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg drydyddol, fod angen canolbwyntio ar sicrhau bod llwybrau addysgol wedi'u mynegi'n glir, bod dysgwyr yn eu deall, a’u bod wedi’u hategu gan lwybrau dilyniant cryf a chefnogaeth i ddysgwyr. Nodwn y bydd hyn yn gofyn am well rhannu data a mewnwelediad ar lefel y system i gefnogi dealltwriaeth gliriach o lwybrau dysgwyr, dilyniant a deilliannau, ac i alluogi goruchwyliaeth effeithiol o'r system a diwylliant o welliant parhaus.
Mae ein hymateb yn pwysleisio, gan fod disgwyl i boblogaeth Cymru 16 i 18 oed ostwng dros y blynyddoedd nesaf, gydag amrywiadau ar draws rhanbarthau, y dylai datblygu polisïau ei gwneud yn haws i ddarparwyr gynllunio'n strategol trwy wella rhannu data a mewnwelediad ar lefel y system, aliniad rhwng cyllid a galw, a chydlynu darpariaeth yn well ar draws rhanbarthau, gan gynnal hyder mewn safonau academaidd ac ansawdd profiad y dysgwr.
Rydym hefyd yn nodi y bydd yn bwysig canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r rhwystrau strwythurol ar draws cyllido, rheoleiddio a chynllunio systemau sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar ehangu dysgu gydol-oes hyblyg a hygyrch, gan sicrhau bod safonau academaidd ac ansawdd profiad y dysgwr yn cael eu cynnal.
Mae ein hymateb yn nodi bod y rhwystrau i fwy o gydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ar hyn o bryd yn cynnwys cyfyngiadau'r amgylchedd ariannol, a'r cymhlethdod sy’n cael ei greu gan wahaniaethau yn y ffordd y mae darpariaeth yn cael ei strwythuro, ei hariannu a'i rheoleiddio. Mae'n dadlau bod trefniadau llywodraethiant clir a chadarn yn hanfodol er mwyn galluogi cydweithio, gan sicrhau bod cyfrifoldebau dros safonau academaidd, sicrhau ansawdd a chymorth i ddysgwyr wedi'u diffinio'n glir ar draws yr holl bartneriaid. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd alinio cymhellion, gan gynnwys cyllido a blaenoriaethau strategol, yn ogystal â dealltwriaeth o bwrpas, yn enwedig lle bwriedir i gydweithio fynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol, cefnogi grwpiau penodol o ddysgwyr, neu gynnal darpariaeth mewn meysydd pwnc allweddol.
Rydym yn pwysleisio, er mwyn sicrhau cynaladwyedd ariannol y sector, y dylid cefnogi newidiadau i'r ddarpariaeth sy'n cael eu sbarduno gan effeithlonrwydd, gan gynnwys trawsnewid y cwricwlwm, cydweithio ac ad-drefnu portffolio, gan gynllunio cydlynol a sicrhau ansawdd cadarn ar lefel y system, fel nad yw safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr yn cael eu peryglu.