Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.
Newyddion
Canllawiau wedi'u diweddaru: arholi ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru
Dyddiad: | Medi 20 - 2019 |
---|
Mae QAA wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i gefnogi arferion effeithiol mewn arholi ac asesu ar gyfer rhaglenni addysg uwch sy'n cael eu darparu neu eu hasesu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae hawl i fyfyrwyr ofyn am gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag fo iaith neu ieithoedd eu haddysg.
Cafodd y canllawiau eu diweddaru i sicrhau eu bod yn ategu ac yn adlewyrchu Mesur y Gymraeg 2011 a disgwyliadau'r Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU, a ddiweddarwyd ym mis Mawrth 2018.
Nod y canllawiau yw sicrhau bod asesiadau'n cael eu llunio gan ystyried anghenion myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, i helpu prifysgolion a cholegau i'w sicrhau eu hunain bod eu rhaglenni'n cyflawni disgwyliadau cenedlaethol o ran ansawdd a safonau, p'un a ydynt yn cael eu darparu yn y Gymraeg neu'r Saesneg a pha un bynnag o'r ddwy iaith y mae'r myfyrwyr yn ei defnyddio yn eu hasesiadau.