Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Cefnogaeth gyfannol ar gyfer llywio a ffynnu mewn tirwedd addysg uwch ryngwladol sy'n esblygu

Mae Global Insights yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o addysg uwch ryngwladol sy’n edrych tua dyfodol, trwy integreiddio deallusrwydd, canllawiau ymarferol a rhwydweithiau proffesiynol. Cewch weld cyfleoedd, heriau a thueddiadau byd-eang, yn ogystal â chefnogaeth i wella eich gallu i wneud penderfyniadau strategol, effeithiolrwydd gweithredol ac ymgysylltiad rhyngwladol.
Staff working in a group

Gweithgareddau i wella eich gwaith rhyngwladoli

Mewnwelediadau Polisi Byd-eang

Diweddariadau byr sy’n ymdrin â datblygiadau allweddol yng nghyd-destunau polisi'r DU, cenedlaethol, neu fyd-eang a'r hyn y maent yn ei olygu ar gyfer gweithgareddau rhyngwladol.

 

Arferion Byd-eang
Cyfres o ganllawiau ymarferol ar gyfer staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol sy'n cwmpasu pob agwedd ar weithgarwch rhyngwladol, gan adlewyrchu cwmpas llawn Côd Ansawdd y DU. Bydd y pynciau’n cynnwys:
  • Strategaeth a phartneriaethau rhyngwladol
  • Prosesau ansawdd mewn sefydliadau aml-gampws ar draws y byd
  • Rhaglenni cyfnewid myfyrwyr
  • Rhyngwladoli'r cwricwlwm
  • Llais a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol.
Adroddiadau Gwlad

Gwybodaeth gryno, gyfoes am farchnadoedd allweddol ar gyfer sector y DU, gan gynnwys dadansoddiad o gyfleoedd a heriau ar gyfer partneriaethau rhyngwladol, recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a symudedd myfyrwyr.

 

Cynhadledd Global Insights
Digwyddiad arobryn sy'n gweithredu fel man cyswllt blynyddol i gydweithwyr sy'n ymwneud â gwaith rhyngwladol.

Cymunedau rhwydweithio
Fforymau ar gyfer dysgu gan gymheiriaid, cydweithio, a chefnogaeth broffesiynol wedi'u teilwra i agweddau penodol ar waith rhyngwladol:
  • Ansawdd a phartneriaethau byd-eang
  • Profiad a symudedd byd-eang
  • Arweinwyr Gweithredol (rhyngwladol).