Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Yn 2026-27, mae aelodaeth yn rhoi cynnig cryfach i chi, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, wedi'i adeiladu o amgylch pum thema bwysig sy'n effeithio ar addysg uwch yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'r themâu hyn yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf i’n haelodau, ac ar y tueddiadau a'r pwysau ehangach a welwn ar draws y sector - gan sicrhau bod cefnogaeth ar gael ble bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

 

Trawsnewid prosesau ansawdd

 

Eich cynorthwyo i amddiffyn safonau academaidd, symleiddio trefniadau ansawdd a chryfhau gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar draws eich sefydliad.


Diogelu asesiadau at y dyfodol

 

Eich galluogi i ddylunio asesiadau dilys, cynhwysol ac ymwybodol o AI sy'n cydbwyso arloesedd ag uniondeb academaidd ac yn cynnal hyder mewn safonau.


Cryfhau goruchwyliaeth partneriaethau

 

Eich paratoi i adeiladu llywodraethiant ac atebolrwydd cryf, datblygu gallu partneriaeth ac addysgeg, yn ogystal â rheoli risg academaidd ac enw da yn hyderus.


Ymateb i newidiadau polisi a rheoleiddio sy'n dod i'r amlwg

 

Eich darparu â gwybodaeth amserol a chymorth ymarferol, i baratoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), bodloni disgwyliadau rheoleiddiol sy'n esblygu ac ymateb i flaenoriaethau dysgu gydol oes.


Ailgynllunio'r cwricwlwm

 

Eich helpu i ailystyried pensaernïaeth rhaglenni, dyluniad cynhwysol a hyblyg, ac integreiddio sgiliau diwydiant a'r dyfodol i ddarparu cwricwla cydlynol, sy'n barod ar gyfer y dyfodol i fyfyrwyr.

""
Yr hyn rwy'n ei werthfawrogi fwyaf am gefnogaeth QAA yw ei gallu i greu'r amodau ar gyfer cydweithio, myfyrio a gwelliant ar draws y sector. Mae fy ngwaith bellach yn adlewyrchu arfer datblygiadol gwirioneddol sy'n gwella addysgu, dysgu, a ffurfiau ehangach o effaith. Mae cefnogaeth QAA wedi cyfrannu at sut rwy'n meddwl am ddylunio cwricwlwm, ymgysylltiad myfyrwyr, dysgu yn y gweithle, a rôl addysg uwch wrth fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd cymhleth.
Dr Fredrick Agboma, Uwch Ddarlithydd mewn Menter ac Entrepreneuriaeth, Prifysgol John Moores Lerpwl
Group of mature students in discussion

Dysgwch fwy am yr hyn mae aelodaeth yn ei gynnig

Mae ein llyfryn yn amlinellu sut y gall aelodaeth QAA fod o gymorth i’ch sefydliad, gyda manylion ynghylch yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar gyfer mathau penodol o aelodaeth ar gael ar y tudalennau perthnasol isod:

 

Mae eich aelodaeth yn mynd i fod hyd yn oed yn well

 

Fe ddwedoch chi wrthym eich bod chi eisiau atebion amserol, canllawiau defnyddiol a llais uwch er mwyn sicrhau ansawdd. Eleni, mae aelodaeth yn eich darparu â gwybodaeth fanylach, mwy o ddylanwad a chymorth ymarferol y gallwch ei roi ar waith ar unwaith:

 

  • Mwy o gymunedau, mwy o gysylltiad: Trwy grwpiau cyfoedion newydd sy'n canolbwyntio ar bynciau a chymunedau rhwydweithio.
  • Gwell Academi Ansawdd: Llwybr datblygiad proffesiynol y gellir adeiladu arno wedi'i gynllunio ar gyfer pawb sy'n ymwneud ag ansawdd.
  • Ardal Adnoddau Aelodaeth wedi'i chryfhau: Mae llyfrgell ddigidol 'My QAA' wedi'i hailgynllunio, sy'n haws i'w lywio, ar y ffordd, wedi'i hadeiladu o amgylch eich adborth.
Mae'r hyfforddiant wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol oherwydd fy mod i'n fwy ymwybodol o'r fframweithiau rheoleiddio presennol ar draws y DU a sut maen nhw'n berthnasol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud fel tîm ansawdd. Mae wedi cynorthwyo â fy natblygiad proffesiynol trwy hybu fy hyder a'm gwybodaeth.

Jenna Brown, Cydlynydd Ansawdd a Rheoleiddio, Prifysgol Wrecsam


Pecyn Global Insights wedi'i adnewyddu

Mae ein cynnig Global Insights ar ei newydd wedd yn dwyn ynghyd gyfres gynhwysfawr o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth ddyfnach a mwy integredig i aelodau o addysg uwch ryngwladol. Mae'n darparu persbectif sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, gan gwmpasu sbectrwm llawn gweithgaredd byd-eang, yn ogystal â darparu mewnwelediadau sy'n torri ar draws polisi, arfer, partneriaethau, symudedd ac ymgysylltiad byd-eang.

 

""