Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd
Mae'r Prosiect Gwelliant Cydweithredol QAA dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai yn rhan o astudiaeth aml-lwybr i ddeall sut mae myfyrwyr yn ymwneud â dysgu, â’r nod o ganfod a chychwyn ymyriadau pwrpasol mewn perthynas â dysgu cymdeithasol ac unigol a dargadwedd, gyda thystiolaeth dda o effeithiolrwydd. 

 

Mae'r Prosiect Gwelliant Cydweithredol QAA dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai yn rhan o astudiaeth aml-lwybr i ddeall sut mae myfyrwyr yn ymwneud â dysgu, â’r nod o ganfod a chychwyn ymyriadau pwrpasol mewn perthynas â dysgu cymdeithasol ac unigol a dargadwedd, gyda thystiolaeth dda o effeithiolrwydd.

 

Roedd y cyllid a ddyrannwyd gan QAA Cymru yn benodol ar gyfer dau fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig i’r diben o gynorthwyo â chynhyrchu adolygiad llenyddiaeth manwl ar fodelau seicolegol a chymdeithasegol o ymgysylltiad myfyrwyr, ac ymyriadau addysgu gan ddefnyddio'r safbwyntiau hyn.

 

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar y grwpiau canlynol o gwestiynau ymchwil:

  • Pa ffactorau sy'n ysgogi ymgysylltiad myfyrwyr ar draws carfannau, ac a oes gwahaniaethau disgyblaethol? 
  • Beth yw profiadau myfyrwyr o ddysgu mewn grŵp ac yn unigol? Pa ffactorau sy'n cynorthwyo dargadwedd a dilyniant? Pa ffactorau allai gefnogi dysgu cymdeithasol? Sut mae'r rhain yn amrywio ar draws disgyblaethau a charfannau?   
  • Sut gallwn ni ddiffinio ymyriad o ansawdd uchel mewn ymgysylltiad myfyrwyr? Beth yw ffocws y gwaith hwn? Sut mae'n cymharu â'r arferion da a nodwyd yn flaenorol? 

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a gyflawnwyd o fewn y chwe mis cyntaf, yn rhannol trwy ddefnyddio cyllid gan QAA Cymru. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar yr adolygiad gwerthusol o lenyddiaeth ar gyfer ymyriadau i gefnogi ymgysylltiad myfyrwyr, a fydd yn sail i becyn cymorth ar gyfer ymyriadau pellach y gwneir adroddiad arnynt yn y dyfodol.

 

Mae’r adroddiad yn ymdrin â thri llinyn allweddol o’r prosiect ar draws Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai hyd yma:

  • Mapio proffiliau digidol
  • Trosolwg o gyfweliadau grŵp ffocws gyda myfyrwyr  
  • Adolygiad gwerthusol o lenyddiaeth ar gyfer ymyriadau o ansawdd uchel mewn ymgysylltiad myfyrwyr

Mae'r adroddiad wedyn yn cynnig casgliadau yn seiliedig ar yr elfennau allweddol hyn o'r prosiect hyd yma.

 




Arweinydd:

Prifysgol Bangor 


Partneriaid:

Grŵp Llandrillo Menai