Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol (Adolygiad GorA) yw enw dull adolygu newydd arfaethedig sydd i gymryd lle'r gyfres bresennol o bedwar dull o adolygu a monitro 'darparwyr amgen' - sef darparwyr preifat sy'n cynnig cyrsiau addysg uwch yn y DU ond nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r cyrff sy'n cyllido neu'n rheoleiddio addysg uwch yn y DU.


Lluniwyd y dull arfaethedig i uno amrywiol arferion ac i ddiweddaru'r iaith a'r prosesau a ddefnyddir er mwyn adlewyrchu'r ddarpariaeth addysg uwch gyfoes yn y DU yn well.


>Nod yr ymgynghoriad hwn yw cael sylwadau am y dull adolygu newydd arfaethedig, a bydd o ddiddordeb i ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach, eu cyrff cynrychioli, cyrff eraill yn y sector addysg uwch, adrannau'r llywodraethau a'r myfyrwyr. Byddem yn annog sylwadau'n arbennig gan y darparwyr hynny sydd i gael eu hadolygu gan QAA o dan ei dulliau cyfredol.


Sut i gyflwyno atebion

Mae'r ymgynghoriad ar y dull adolygu Adolygiad GorA yn agored am chwe wythnos.


Mae ein cynigion i'w gweld yn y ddogfen ymgynghori isod, a'r bwriad yw bod y ddogfen i gael ei darllen ochr yn ochr â'r llawlyfr Canllawiau i Ddarparwyr. Defnyddiwch ein harolwg ar-lein i gyflwyno eich atebion os gwelwch yn dda. Mae fersiwn Microsoft Word o gwestiynau'r ymgynghoriad hefyd ar gael i'r rheini sy'n dymuno paratoi eu hatebion cyn eu cyflwyno drwy'r arolwg ar-lein.


Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw Dydd Mawrth 7 Mai 2024 am 5pm.


Y cwestiynau yn yr arolwg ar-lein: Ymgynghoriad ar Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol

Dyddiad cyhoeddi: 27 Maw 2024


Canfod rhagor

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ymgynghoriad a'r dull Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at AssessmentServices@qaa.ac.uk.


Hefyd, byddwn yn cynnal gweminar ar Ddydd Mercher 10 Ebrill i roi cyfle i bobl ofyn cwestiynau am y dull arfaethedig hwn i Dîm Gwasanaethau Asesu QAA a rhyngweithio â nhw. I gadw eich lle, ewch i'n gwefan gofrestru ar gyfer y digwyddiad.


Y camau nesaf

Ar ôl cau'r ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr ymatebion i gyd. Yna byddwn yn gwneud newidiadau i'n cynigion os byddwn yn ystyried bod rheswm clir i wneud hynny. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad yn ogystal â fersiwn terfynol o ganllawiau i ddarparwyr ym mis Mehefin 2024.