Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o'n gwaith. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.


Mae ein gwaith yn ategu ein cenhadaeth i ddiogelu safonau a gwella addysg uwch y DU, lle bynnag y mae'n cael ei darparu ledled y byd.


Prif feysydd ein gwaith

Rydym yn adolygu safonau ac ansawdd mewn addysg uwch, yn cynhyrchu cyfarwyddyd allweddol i'r sector ac yn rhoi cymorth ymarferol i'n haelodau.

Ein trefn reoli

Rydym yn gorff annibynnol, yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, o dan reolaeth ein Bwrdd.

Gyda phwy y gweithiwn

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl i wella addysg uwch, o ddarparu cyngor i'r llywodraeth i ymgynghori â'n haelodau a'r myfyrwyr.

Gweithio i QAA

Canfyddwch sut brofiad yw gweithio i ni. Edrychwch ar y swyddi gwag sydd ar gael gennym ar hyn o bryd, a dysgwch ragor am ein pobl a'n gwerthoedd.