Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib, ac i weithio mewn ffordd agored ac atebol. Un o'r ffyrdd yr ydym yn parhau i wella ein gwasanaeth yw drwy wrando ar farn ein haelodau, ein rhanddeiliaid a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ymateb yn gadarnhaol i gwynion a chywiro camgymeriadau. Os nad ydych chi'n fodlon â'r gwasanaeth a gawsoch gennym, rhowch wybod i ni.


Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â'r unigolyn rydych wedi bod yn ymwneud ag o/â hi yn QAA, fel bod cyfle ganddo/ganddi i'ch helpu a cheisio datrys y mater. Os nad ydych yn fodlon â'r esboniad a'r penderfyniad a gewch, mae modd i chi gysylltu â Thîm Llywodraethu QAA i gyflwyno cwyn ffurfiol.

Safonau ar gyfer ymdrin â chwynion

Mae gennym weithdrefn gyhoeddedig sy'n nodi canllawiau i sicrhau bod canmoliaeth, sylwadau a chwynion a dderbynnir gan QAA yn cael eu trin gyda chwrteisi, parch a thegwch.

 

Byddwn mewn sefyllfa well i ymateb i'ch cwyn os byddwch yn ei gwneud yn brydlon, gan gyflwyno tystiolaeth ategol ochr yn ochr â hi. Nodwch y maes, ynghyd â dyddiad ac amser y digwyddiad y mae eich cwyn yn ymwneud ag o, a rhowch dystiolaeth ategol ac unrhyw wybodaeth berthnasol am gyfathrebiadau a gafwyd rhyngoch chi â ni yn ymwneud â'r mater.

 

Byddwn yn:

  • gweithredu ein Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â Chanmoliaeth, Sylwadau a Chwynion mewn ffordd agored, eglur ac atebol
  • ymdrin â'ch cwyn gyda chwrteisi, parch a thegwch
  • cyfleu'r rhesymau dros y canlyniad
  • defnyddio unrhyw wybodaeth a phrofiad a geir yn sgil cwynion i wella'r ffordd yr ydym yn gweithredu.

Ein hegwyddor wrth wneud ein gwaith yng Nghymru yw y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac yn bodloni'r Hysbysiad Cydymffurfio a roddwyd i ni mewn perthynas â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Felly, byddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion a dderbyniwn am y ffordd yr ydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn y meysydd cyflenwi gwasanaethau, gweithredu a llunio polisi yr ydym wedi ein hymrwymo iddynt, fel y maent wedi eu nodi yn y weithdrefn hon, p'un a ydym wedi derbyn y gŵyn yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a byddwn yn ateb yn yr iaith y cyflwynwyd y gŵyn ynddi, oni bai bod yr achwynydd yn nodi y byddai'n hoffi derbyn ateb yn yr iaith arall.


Mae'r wybodaeth gyflawn yn ein gweithdrefn isod.


 

Mae gan QAA hefyd gynllun cyhoeddi gwybodaeth a gweithdrefn ar gyfer ceisiadau gwrthrych am wybodaeth, sydd ar gael ar ein tudalen we am ein polisïau.

 

Apeliadau

 

Mae QAA yn diffinio cwynion fel mynegiant gan unigolion o'u hanfodlonrwydd â'r profiad a gawsent wrth ymwneud ag QAA. Gallent wneud cwynion ar ran eu sefydliad. Mae cwynion yn wahanol i apeliadau a gosodiadau, lle bydd sefydliad yn herio canlyniad adolygiad QAA neu benderfyniad arall a wnaed gan QAA.