Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Y newyddion diweddaraf


QAA YN CYHOEDDI LLAWLYFR AR GYFER YR ADOLYGIAD O BRENTISIAETHAU GRADD YNG NGHYMRU

Dyddiad: Hydref 16 - 2020

Mae QAA wedi cyhoeddi’r Llawlyfr ar gyfer yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2020-21.

Mae'r adolygiad a gomisiynwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn ymwneud â Phrentisiaethau Gradd a ariennir trwy CCAUC yn unig, sef y rhai sydd wedi bod ar gael fel rhan o gynllun peilot ers 2018-19, gan gwmpasu tri maes blaenoriaeth: Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Mae’r adolygiad hwn yn gweithredu ochr yn ochr â gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun peilot ar gyfer Prentisiaethau Gradd CCAUC.

Cynlluniwyd yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd i fod yn adolygiad datblygiadol sy'n canolbwyntio ar sut mae darparwyr addysg uwch yn cyflwyno’r rhaglen, gan gynnwys dysgu yn y gweithle. Un o nodweddion allweddol yr adolygiad yw'r defnydd o Ddatganiad Nodweddion ar gyfer Addysg Uwch mewn Prentisiaethau QAA.

Mae'r llawlyfr wedi'i ddiwygio i roi ystyriaeth i ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad. Mae’r prif themâu a godwyd gan ymatebwyr fel a ganlyn:

  • Yr amserlen ar gyfer y broses adolygu
  • Perthynas yr adolygiad â'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru
  • Heriau wrth ymgysylltu â phrentisiaid
  • Effaith COVID-19 ar gynnal yr adolygiad

Mae ymateb QAA i'r themâu hyn yn cael ei egluro mewn dogfen grynodeb sy'n amlinellu’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a'r diweddariadau i'r llawlyfr a wnaed yn eu sgil.

Meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr QAA dros yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: ‘Mae QAA yn ddiolchgar am ymgysylltiad y sector â’r ymgynghoriad hwn ar adeg mor heriol. Mae’r ymatebion hysbys a defnyddiol wedi cynorthwyo â datblygu proses adolygu o ansawdd uchel ar gyfer gwerthuso cynllun peilot Prentisiaethau Gradd CCAUC a chynorthwyo darparwyr i ddatblygu eu darpariaeth.’


Paratoi ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd: dynodi blaenoriaethau gwelliant

Mawrth 19 - 2024

Ar-lein

Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru a ariennir gan CCAUC: Symposiwm 2024

Mehefin 6 - 2024

Ar-lein


Y Blog


Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.