Rhwydwaith Ansawdd Cymru: Rhannu Arfer o'r Adolygiad o Brentisiaethau Gradd (Cymru)
Dyddiad: | Mawrth 2 - 2022 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) yn grŵp dan arweiniad y sector sy’n derbyn cefnogaeth gan QAA. Ei nod yw darparu cymorth i ymarferwyr ansawdd yng Nghymru ar faterion polisi ac arfer mewn meysydd sy'n ymwneud ag ansawdd dysgu ac addysgu, sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd. Amcan y Rhwydwaith yw mynd ati ar y cyd i wella addysg uwch yng Nghymru, drwy rannu gwybodaeth a chynnig sylwadau ar eich arferion a'ch heriau.
Cadeirydd y Rhwydwaith yw Nicola Poole, Pennaeth Ansawdd a Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol De Cymru. Fel rheol mae'n cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal sesiynau trafod rhwng cyfarfodydd ffurfiol o’r Rhwydwaith. Mae'n agored i staff o ddarparwyr addysg uwch sy’n aelodau QAA yng Nghymru, ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff cynrychioli myfyrwyr.
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru’n cynnal trafodaethau a chyflwyniadau’n rheolaidd ar heriau ac arferion allweddol mewn addysg uwch, gan gynnwys:
- Gwella ansawdd
- Micro-gymwysterau
- Ymgysylltiad myfyrwyr
- Dysgu digidol/cyfunol
- Canmoliaeth yn sgil Adolygiadau Gwella Ansawdd.
Bydd cyfarfod gwanwyn Rhwydwaith Ansawdd Cymru yn canolbwyntio ar rannu arfer o'r Adolygiad o Brentisiaethau Gradd (Cymru).
Comisiynwyd QAA gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gynnal adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21. Roedd yr adolygiad yn ymwneud â Phrentisiaethau Gradd a ariennir trwy CCAUC yn unig, sef y rhai sydd wedi bod ar gael fel rhan o gynllun peilot ers 2018-19, gan gwmpasu tri maes blaenoriaeth: Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Cymerodd 8 o brif ddarparwyr addysg uwch Cymru ran yn yr adolygiad, a chyhoeddwyd adroddiad trosolwg ar 5ed Hydref 2021.
Defnyddiodd yr adolygiad y Datganiad Nodweddion Addysg Uwch mewn Prentisiaethau QAA fel cyfeirbwynt allweddol ar gyfer yr adolygiad, a nodwyd arfer da ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad trosolwg wedi'u strwythuro ar y themâu canlynol:
- Cynllunio a datblygu rhaglenni
- Dulliau ar gyfer cyflwyno rhaglenni
- Dysgu ac addysgu
- Cefnogi cyflawniad prentisiaid
- Asesiad
Bydd y cyfarfod hwn o Rwydwaith Ansawdd Cymru yn cefnogi’r arfer da a rennir gan y sector a nodwyd yn yr adolygiad.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru