Rhwydwaith Ansawdd Cymru - cyfarfod cyfamserol
Dyddiad: | Ionawr 22 - 2021 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |
Dydd Gwener 22 Ionawr, rhwng (13:00 - 15:00)
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru’n cynnal cyfarfod anffurfiol ar ffurf ‘galw-heibio’. Mae’r sesiwn gyfamserol hon yn gyfle i aelodau drafod unrhyw heriau neu arferion rhwng cyfarfodydd ffurfiol y rhwydwaith. Nid oes unrhyw agenda ffurfiol ar gyfer y sesiwnhon.
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) yn grŵp dan arweiniad y sector sy’n derbyn cefnogaeth gan QAA. Ei nod yw darparu cymorth i ymarferwyr ansawdd yng Nghymru ar faterion polisi ac ymarfer mewn meysydd sy'n ymwneud ag ansawdd mewn dysgu ac addysgu, sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd. Amcan y Rhwydwaith yw mynd ati ar y cyd i wella addysg uwch yng Nghymru, drwy rannu gwybodaeth a chynnig sylwadau ar eich arferion a'ch heriau.
Cadeirydd y Rhwydwaith yw Nicola Poole (Prifysgol De Cymru) ac fel rheol mae'n cwrdd yn ffurfiol tair gwaith y flwyddyn. Mae'n agored i staff o sefydliadau sy’n Aelodau QAA yng Nghymru, ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff cynrychioli myfyrwyr.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru