Rhwydwaith Ansawdd Cymru - 14 Mehefin
Dyddiad: | Mehefin 14 - 2022 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |
Dydd Mawrth 14 Mehefin (13:00-15:30 BST)
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) yn grŵp dan arweiniad y sector sy’n derbyn cefnogaeth gan QAA. Ei nod yw darparu cymorth i ymarferwyr ansawdd yng Nghymru ar faterion polisi ac arfer mewn meysydd sy'n ymwneud ag ansawdd dysgu ac addysgu, sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd. Amcan y Rhwydwaith yw mynd ati ar y cyd i wella addysg uwch yng Nghymru, drwy rannu gwybodaeth a chynnig sylwadau ar eich arferion a'ch heriau.
Cadeirydd y Rhwydwaith yw Nicola Poole, Pennaeth Ansawdd a Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol De Cymru. Fel rheol mae'n cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal sesiynau trafod rhwng cyfarfodydd ffurfiol o’r Rhwydwaith. Mae'n agored i staff o ddarparwyr addysg uwch sy’n aelodau QAA yng Nghymru, ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff cynrychioli myfyrwyr.
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru’n cynnal trafodaethau a chyflwyniadau’n rheolaidd ar heriau ac arferion allweddol mewn addysg uwch, gan gynnwys:
- Gwella ansawdd
- Micro-gymwysterau
- Ymgysylltiad myfyrwyr
- Dysgu digidol/cyfunol
- Canmoliaeth yn sgil Adolygiadau Gwella Ansawdd.
- Prentisiaethau Gradd
Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru yn agored i aelodau QAA ym mhob un o wledydd y DU.
Bydd cyfarfod y Rhwydwaith ar 14eg Mehefin yn canolbwyntio ar allbynnau Prosiectau Gwella Cydweithredol cyntaf QAA Cymru, a ddechreuodd yn 2020-21, ac yn clywed gan arweinwyr rhai o’n prosiectau.
Ymunwch â’r cyfarfod ar 14eg Mehefin i glywed gan arweinwyr y prosiect a sut mae’r allbynnau’n gwella profiad myfyrwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru