Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru – Prosiect Gwelliant Micro-gymwysterau (wedi’i ariannu gan CCAUC): Ymarferoldeb Cyflwyno

Dyddiad: Mehefin 7 - 2023
Lleoliad: Ar-lein
""

Dydd Mercher 7 Mehefin, 10:00 - 11:30

Yn ystod 2022-23, mae QAA Cymru wedi ymgymryd â phrosiect a gomisiynwyd gan CCAUC i ddysgu mwy am Ficro-gymwysterau yng Nghymru a rhannu arfer ar draws y sector.

Mae micro-gymwysterau yn gymwysterau bach sy’n dwyn credydau nad ydynt, yn unigol, yn gyfystyr â chymhwyster fel y'i rhestrir ar y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch. Mae mwy o wybodaeth am Ficro-gymwysterau yn y Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau.

Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar yr astudiaethau achos a ddatblygwyd gan CCAUC yn y cyhoeddiad Higher Education for the Nation:Developing Micro-credentials. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y blog hwn.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae QAA yn cynnal arolwg byr gyda darparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, ac yn dilyn hyn gyda thrafodaethau byr ar weithgareddau cyfredol ym maes Micro-gymwysterau.

Bydd y gweminarau yn gyfle i rannu arfer ym maes Micro-gymwysterau yng nghyd-destun Datganiad Nodweddion Micro-Gymwysterau QAA.

Bydd y ddwy weminar yn ymwneud â’r canlynol:

  1. Prosesau Sicrhau Ansawdd Dydd Mercher 24ain Mai - 10:00 - 11:30
  2. Ymarferoldeb Cyflwyno Dydd Mercher 7fed Mehefin - 10:00 - 11:30

Cofrestru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru