Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.

Newyddion


Mae'r Swyddfa Myfyrwyr a QAA yn cytuno ar drefniadau ar gyfer asesu ansawdd mewn addysg uwch

Dyddiad: Gorffennaf 19 - 2018

Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) wedi nodi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd QAA yn cyflawni'r swyddogaethau asesu ansawdd a safonau yn Lloegr.

Ers 1 Ebrill 2018, y Swyddfa Myfyrwyr yw'r corff sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr yn unol â Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017. Roedd y Ddeddf yn gofyn bod corff yn cael ei benodi i wneud gwaith asesu ansawdd a safonau i gefnogi proses reoleiddio'r Swyddfa Myfyrwyr. Dynodwyd QAA gan Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg y DU, a daeth hithau hefyd yn weithredol o 1 Ebrill 2018.

Mae cytundeb dynodi, a gyhoeddwyd heddiw, yn amlinellu'r ffordd y bydd QAA yn defnyddio ei harbenigedd i weithio ar ran y Swyddfa Myfyrwyr a sut y bydd yn cael ei dal yn atebol am y ffordd mae'n cyflawni'r swyddogaethau newydd. Mae'n disgrifio rôl QAA mewn:

  • asesu ansawdd a safonau darparwyr addysg uwch
  • darparu sail tystiolaeth i helpu'r Swyddfa Myfyrwyr i benderfynu a yw darparwyr yn bodloni'r gofynion o ran ansawdd ar gyfer cael eu cofrestru
  • rhoi cyngor i hysbysu penderfyniadau'r Swyddfa Myfyrwyr ar bwerau darparwyr i ddyfarnu graddau.

Meddai Nicola Dandridge, Prif Weithredwr y Swyddfa Myfyrwyr:

“Mae'n bleser mawr gennym ein bod wedi cadarnhau'r trefniadau gyda QAA. Mae cyngor dibynadwy am ansawdd a safonau'n hanfodol i'n galluogi i gyflawni ein rôl yn effeithiol fel y corff sy'n rheoleiddio addysg uwch, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda QAA dros y blynyddoedd sy'n dod.”

Meddai Douglas Blackstock, Prif Weithredwr QAA:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r Swyddfa Myfyrwyr i weithredu dulliau arloesol o asesu ansawdd sy'n ystyried risgiau, sy'n briodol i system addysg uwch ddatblygedig sydd ymysg y gorau yn y byd. Fel corff annibynnol y DU sydd â'r cyfrifoldeb am asesu ansawdd a safonau, byddwn yn cyfrannu at system a fydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i gael gafael ar ddarpariaeth addysg uwch o'r radd flaenaf drwy'r byd i gyd, lle bynnag a sut bynnag y maent yn astudio.”

Cyn hir, bydd QAA yn cyhoeddi ymgynghoriad ar y dull newydd o adolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr newydd sy'n ceisio cael eu cofrestru gyda'r Swyddfa Myfyrwyr.

  1. Mae'r gweithgareddau sydd wedi'u hamlinellu yn y cytundeb dynodi rhwng y Swyddfa Myfyrwyr a QAA yn cynnwys:
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu ansawdd a safonau i asesu a yw darparwr addysg uwch yn bodloni'r gofynion cychwynnol ar gyfer cael cofrestriad
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu darparwyr addysg uwch mewn perthynas ag achosion gwirioneddol neu debygol o dorri'r gofynion ar gyfer cael cofrestriad
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu ansawdd a safonau yn rhan o ddull samplo ar hap y Swyddfa Myfyrwyr
    • rhoi cyngor i'r Swyddfa Myfyrwyr ynglŷn ag ymgeiswyr am bwerau newydd neu bwerau llawn i ddyfarnu graddau.
  2. QAA yw'r corff sicrhau ansawdd annibynnol ar gyfer addysg uwch y DU. Mae'n gwmni elusennol ym maes addysg uwch. Mae ei drefniadau llywodraethu wedi'u seilio ar yr egwyddor o gyd-reoleiddio. Mae ei Fwrdd yn cynrychioli pob adran o sector addysg uwch y DU, gan gynnwys y myfyrwyr, ac mae'n cynnwys aelodau annibynnol sy'n dod ag arbenigedd o'r byd diwydiannol, masnachol, ariannol a phroffesiynol.
  3. Y Swyddfa Myfyrwyr yw'r corff annibynnol sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr. Ein nod yw sicrhau fod pob myfyriwr yn cael profiad addysg uwch boddhaus sy'n cyfoethogi eu bywydau a'u gyrfaoedd.

Blog


Y sector addysg uwch yng Nghymru ar flaen y gad gyda’i ymagwedd a arweinir gan welliant at Adolygu Gwella Ansawdd

01/09/2024 - Athro Nichola Callow Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg), Mhrifysgol Bangor

Ymgolli mewn Dysgu Drwy Drochi! Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol

11/10/2023 - Steph Tindall ennaeth Datblygu Ymarfer Addysgol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Hawlio’n ôl ymgysylltiad â myfyrwyr: Blwyddyn gyntaf agwedd gydweithredol o Gymru

01/06/2022 - Dr Myfanwy Davies Pennaeth Gwella Ansawdd, Prifysgol Bangor