Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

I sicrhau bod y myfyrwyr yn cael profiad o'r ansawdd cywir, mae QAA yn gweithio gyda phob prifysgol a choleg ledled y DU sy'n darparu rhaglenni astudio addysg uwch.


Mae modd dosbarthu darparwyr addysg uwch i bedwar categori. Bydd pob un yn derbyn adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol am resymau gwahanol.

Prifysgolion

Mae 168 o brifysgolion yn y DU, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn cael eu cyllido'n gyhoeddus. Mae pedair ohonynt yn breifat ac nid ydynt yn derbyn cyllid grant cyhoeddus (gwelwch ‘darparwyr amgen’ isod). Mae'r term ‘teitl prifysgol’ yn derm sydd wedi'i ddiogelu gan y gyfraith a dim ond y darparwyr hynny y rhoddwyd y teitl hwn iddynt gan y llywodraeth sy'n cael ei ddefnyddio. Mae rhai prifysgolion wedi dal y teitl ers canrifoedd, ond i gael teitl prifysgol y DU y dyddiau yma, mae'n rhaid i ddarparwr fodloni meini prawf penodol.


Darparwyr addysg uwch a gyllidiryn gyhoeddus

Mae'r rhain yn cynnwys colegau, colegau prifysgol neu sefydliadau arbenigol llai megis conservatoires. Nid oes gan bob un o'r darparwyr hyn bwerau dyfarnu graddau. Weithiau gelwir prifysgolion sy'n derbyn cyllid grant yn sefydliadau ‘a gyllidir yn gyhoeddus’.

Colegau addysg bellach

Mae mwy na 200 o golegau addysg bellach yn darparu rhaglenni astudio addysg uwch, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyllido'n gyhoeddus. Mae gan rai'r pŵer i ddyfarnu eu graddau eu hunain, ond mae'r mwyafrif ohonynt yn darparu rhaglenni astudio sy'n arwain at ddyfarniad gan gorff dyfarnu graddau partner (sef prifysgol fel arfer).


Mae'n rheidrwydd ar bob un o'r darparwyr uchod sy'n derbyn cyllid cyhoeddus gael asesiadau neu adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod y pedwar corff sy'n dyrannu cyllido cyhoeddus yn sicrhau y gwneir trefniadau i asesu ansawdd darpariaeth addysg y darparwyr y maent yn eu cyllido.

Darparwyr amgen

Mae'r rhain yn ddarparwyr nad ydynt yn derbyn cyllid grant gan un o gyrff cyllido addysg uwch y DU, ac maent yn cynnwys rhai prifysgolion sy'n meddu ar eu pwerau dyfarnu graddau eu hunain. Ond, mae'r mwyafrif ohonynt yn darparu rhaglenni astudio sy'n arwain at ddyfarniad gan gorff dyfarnu graddau partner. Am nad ydynt yn derbyn cyllid grant cyhoeddus, gelwir darparwyr amgen weithiau'n ddarparwyr ‘preifat neu annibynnol’.


Mae'n rheidrwydd ar ddarparwyr amgen sy'n cynnig addysg uwch eu bod yn cymryd rhan mewn adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol, os ydynt:

  • yngwneudcaisi QAA am ‘oruchwyliaethaddysgol’, sy'nrhywbeth y maenteiangen er mwyncaeleutrwyddedu gan Lywodraeth y DU igofrestrumyfyrwyro'rtuallani'r UE
  • eisiau derbyn ‘dynodiad cwrs penodol’, sy'n galluogi i fyfyrwyr cymwys dderbyn benthyciadau cynhaliaeth myfyrwyr gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
  • yn meddu ar bwerau dyfarnu graddau, ac mae'n rhaid i ddarparwyr amgen adnewyddu'r rhain bob chwe blynedd.